News Centre

Preswylwyr yn mwynhau eu cartrefi newydd ar safle hen Lofa Penallta

Postiwyd ar : 27 Ebr 2023

Preswylwyr yn mwynhau eu cartrefi newydd ar safle hen Lofa Penallta
Mae datblygiad tai newydd ar safle'r hen Lofa Penallta ger Hengoed, Caerffili nawr wedi'i gwblhau, gyda phreswylwyr wedi symud i mewn ac yn mwynhau eu cartrefi newydd.

Roedd United Welsh, y sefydliad tai nid-er-elw, wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Morganstone Ltd i ddatblygu 48 o gartrefi er mwyn eu rhentu neu ar gyfer perchentyaeth fforddiadwy. 

Cafodd 38 o'r cartrefi eu neilltuo ar gyfer rhentu trwy Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda 10 o'r tai eraill yn cael eu gwerthu gan Harmoni Homes - brand United Welsh ar gyfer tai fforddiadwy sydd ar werth.

Prynodd Kerry a Rob Bailey gartref â thair ystafell wely gyda Harmoni Homes. Meddai Kerry, "Rydyn ni wedi bod yn denantiaid United Welsh am y 12 mlynedd diwethaf, ac rydyn ni angen eiddo mwy o faint oherwydd ein teulu sydd wedi ehangu. Doedden ni ddim yn gallu prynu tŷ sy'n diwallu ein hanghenion fel teulu o bump ar y farchnad agored oherwydd y cynnydd cyflym yn y farchnad eiddo.

"Roedd prynu tŷ gyda Harmoni Homes trwy'r cynllun rhanberchenogaeth wedi ein helpu ni i gyflawni beth roeddem ni'n meddwl oedd yn amhosib.

"Diolch enfawr i Derene a'r tîm cyfan yn Harmoni Homes."

Mae'r cartrefi ym Mhenallta i gyd yn fand raddio EPC A, sef y radd uchaf o effeithlonrwydd ynni. Mae'r eiddo hefyd yn manteisio o bympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar ar y to.

Meddai Lynn Morgan, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, Asedau a Chynaliadwyedd yn United Welsh, "Mae adeiladu tai gan ystyried effeithlonrwydd ynni ac ein hôl troed carbon yn bwysig i ni yn United Welsh oherwydd yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng costau byw rydyn ni'n eu hwynebu. Mae'r cynllun hwn yn gam cadarnhaol tuag at y nod hwn ac yn ein helpu ni cwrdd â'r gofyn am dai mwy fforddiadwy o safon uchel yng Nghaerffili."

Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros Dai, "Rydyn ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth â United Welsh ar ddatblygiadau fel hyn, sydd nid yn unig yn helpu diddymu'r angen lleol am dai fforddiadwy, ond hefyd yn helpu preswylwyr i gadw eu costau ynni'n isel a lleihau allyriadau carbon."

Cafodd datblygiad tai Glofa Penallta ei ariannu'n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.


Ymholiadau'r Cyfryngau