News Centre

Perchennog Siop Pysgod a Sglodion Gorau Cymru yn Agor Ail Fwyty Gyda Chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 28 Ebr 2023

Perchennog Siop Pysgod a Sglodion Gorau Cymru yn Agor Ail Fwyty Gyda Chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngwobrau  Cenedlaethol Pysgod a Sglodion y Deyrnas Unedig 2023, lle cawson nhw eu cydnabod fel y gorau yng Nghymru, a’r ail gorau yn y Deyrnas Unedig gyfan, mae perchennog Fish Kitchen 1854 ar fin lansio ei fwyty pysgod a sglodion newydd ym Margod.

Cafodd Fish Kitchen 1854 ei enw fel ffordd o gydnabod treftadaeth leol Maes-y-cwmwr ac agoriad y draphont sy'n agos i’r siop pysgod a sglodion. Mae'r bwyty pysgod a sglodion newydd ym Margod yn dilyn thema debyg, gyda’r enw Fish Kitchen 1931, gan ddefnyddio’r dyddiad bu’r siop pysgod a sglodion cyntaf agor ar y safle yn 1931.

Mae'r camau terfynol nawr ar waith i greu profiad â thema er mwyn i ymwelwyr ddathlu eu treftadaeth a'r pyllau glo a oedd unwaith bobman ledled cymoedd De Cymru. Mae'r bwyty wedi cael ei adnewyddu'n llawn gyda llawr mesanîn uwchben y gegin. Bydd gan y bwyty ardal â bythau a byrddau, wedi'i dylunio yn ôl thema’r draphont, gyda phob bwth wedi'u henwi ar ôl y pyllau glo lleol.  Bydd hanes y dref hefyd yn cael ei ddathlu, gyda sgriniau wrth bob bwth yn adrodd treftadaeth a hanes yr ardal.
Mae cynlluniau ar waith i wneud y bwyty yn lle sydd rhaid ymweld ag ef, sy'n cynnig profiad o safon uchel ac sy'n werth da am yr arian. Mae'r perchennog, Lee Humphreys, yn edrych ymlaen at dynnu sylw at beth sydd gan Fargod i'w cynnig, gyda chynlluniau i ddarparu mwy na beth sydd gan y rhan fwyaf o siopau pysgod a sglodion traddodiadol i’w cynnig. Mae yna hefyd gynlluniau i wneud cais am drwydded i weini alcohol yn y fangre a darparu danteithfwydydd môr o safon uchel.

Mae Fish Kitchen 1931 wedi derbyn dau grant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy eu Cronfa Ffyniant Gyffredin, gwerth cyfanswm o £50,000. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r cyllid hwn i Fish Kitchen 1931 o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedden nhw hefyd wedi derbyn grant pellach gwerth £10,000 gan Gronfa Fenter Caerffili a grant gwerth £25,000 gan y Gronfa Trawsnewid Trefi.

Bydd y fenter newydd yn creu rhwng 20 a 30 swydd mewn amrywiaeth o rolau yn y busnes ac mae cynlluniau ar waith i weithio'n agos gyda chyflenwir a busnesau lleol. Roedd sylw penodol wedi cael ei rhoi at ddefnyddio busnesau a masnachwyr lleol i ymgymryd â'r gwaith adnewyddu. Wrth i gamau olaf y gwaith cael eu cwblhau, mae gan y gymuned leol ddiddordeb mawr iawn, ac maen nhw'n cyfrif y dyddiau tan ei ddyddiad agor cynlluniedig ar 29 Mai.

Dywedodd y perchennog, Lee Humphreys, "Rydw i'n gyffrous iawn i agor y lle newydd hwn, gan roi profiad pysgod a sglodion ag elfen hanesyddol i Fargod. Diolch i'r cymorth gan Dîm Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, byddaf yn gallu creu swyddi newydd a recriwtio pobl leol yn ogystal â hyrwyddo'r dreftadaeth leol.  Heb eu cymorth nhw, fyddwn ni ddim wedi gallu cyflawni ein cynllun. Mae'r Cyngor wedi bod yn allweddol wrth ein helpu ni i greu'r busnes newydd hwn."

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros  Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Roedd yn wych i siarad â Lee am ei gynlluniau ar gyfer The Fish Kitchen. Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau i weithio'n agos ag ef gan gynnig cymorth ariannol, a fydd yn helpu tuag at greu'r fenter newydd, wych hon".


Ymholiadau'r Cyfryngau