News Centre

Digwyddiad Coffa i'w gynnal yn Parc Lansbury

Postiwyd ar : 25 Ebr 2023

Digwyddiad Coffa i'w gynnal yn Parc Lansbury
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener 28 Ebrill am 3pm i agor man coffa newydd ym Mharc Lansbury.

Mae'r man coffa wedi cael ei sefydlu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar fan gwyrdd ym Mharc Maxton i goffáu Darren Smith, a gafodd Fedal Ddewrder y Frenhines, ar ôl ei farwolaeth, am ei ddewrder rhagorol.
Collodd Darren ei fywyd wrth geisio achub Geraint Lewis a oedd yn 2 oed, a’i chwaer Jade a oedd yn 9 mis oed, o dân yn eu cartref ar yr ystâd ym mis Rhagfyr 1989.
 
Mae'r man coffa yn cymryd lle coflech a oedd wedi ei lleoli yng nghyn feddygfa Parc Lansbury, ac mae hefyd yn cynnwys coed sydd wedi’u plannu er cof am Geraint a Jade.

Bydd y digwyddiad yn cael ei weinyddu gan y Cynghorydd Liz Aldworth, Maer Bwrdeistref Sirol Caerffili, a ddywedodd, “Bydd yn fraint ymuno â theuluoedd Darren, Geraint a Jade i agor y man coffa newydd yn swyddogol a chofio aberth anhygoel a phrofedigaeth sylweddol y noson drasig honno.  Rydyn ni’n gobeithio y daw’n ofod lle gall teulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach ymweld ag ef i fyfyrio, cofio a dathlu’r bywydau a gollwyd yn anffodus.”


Ymholiadau'r Cyfryngau