News Centre

“Mae hi wedi bod yn fraint lwyr” – Mae angen rhagor o letywyr yn Caerffili

Postiwyd ar : 18 Ebr 2023

“Mae hi wedi bod yn fraint lwyr” – Mae angen rhagor o letywyr yn Caerffili
Mae teuluoedd o Wcráin angen man diogel a rhywle i alw’n gartref yn Caerffili.

Wrth gynnig llety, cewch £500 y mis, yn ogystal â chefnogaeth a hyfforddiant am ddim.

Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi agor eu calonnau a’u cartrefi i’r rhai mewn angen.
Ond mae’r argyfwng yn parhau.

Mae cwpwl o dde Cymru, Caroline ac Alex wedi magu pedwar o blant sydd wedi gadael cartref, ac wedi gwneud y penderfyniad i gynnig y lle sydd ganddynt i fam-gu, mam a'i mab 11 oed.

"Dim ond teulu cyffredin ydyn ni y mae ein plant wedi gadael y nyth," meddai Caroline. "Roedden ni’n meddwl: 'Allwn ni ddim peidio â gwneud hyn,' ac mae wedi bod yn fraint lwyr."

Fel pobl sy’n cynnig llety, mae Caroline ac Alex yn cael £500 y mis i helpu gyda chostau yn ogystal â chefnogaeth arall.

Cawsant eu llorio gan y croeso cynnes Cymreig traddodiadol a gafodd Olena, Lana a Matvii gan eu cymdogion a'r gymuned ehangach. Cyn gynted ag y cyrhaeddon nhw roedd y cynigion i roi lifft, a’r rhoddion, yn ddi-ben-draw, ac maent yn parhau hyd heddiw.

Mae swyddi gan Olena a Lana, sydd bellach wedi addasu’n llwyr i fywyd yng Nghymru, ac mae Matvii yn mynd i grŵp Sgowtiaid lleol ac wedi ennill "Siaradwr Cymraeg yr Wythnos" yn yr ysgol.

Roedd Alex wedi synnu at gryfder yr emosiynau sydd ynghlwm â’r broses.

Dywedodd: "Mae hyn wedi rhoi cyfle i mi helpu pobl mewn angen dybryd.  Mae gwneud hynny wedi gwneud i mi deimlo cymaint gwell ynof fi fy hun."

Mae Caroline yn siarad yn annwyl am ennill merch ac wyres arall.

Dywedodd hi: "Mae'n drws ni wastad yn agored, maen nhw i gyd yn rhan ohonon ni nawr.

"Mae’n gwesteion yn deulu bellach. Maen nhw’n bwysig i ni, a ninnau’n bwysig iddyn nhw."

Bydd y rhan fwyaf o Wcreiniaid sydd yng Nghymru wedi treulio cryn amser yma erbyn hyn, yn dilyn yr ymosodiad mawr gan Rwsia ym mis Chwefror 2022, a bydd llawer mewn addysg a chyflogaeth. Bydd y rhan fwyaf wedi dechrau setlo yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n cymunedau lleol.

Mae awdurdodau lleol yn cynnig cymorth a chefnogaeth trwy gydol y cyfnod lletya a bydd modd iddynt gynnig rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal. Byddant bob amser ar gael i ddatrys unrhyw broblemau neu os bydd y trefniant lletya yn methu, senario sy’n annhebygol ond sydd wedi ei ystyried.

Ni ellir codi rhent ar y rhai sy’n cael llety ond gellir disgwyl iddynt wneud cyfraniad rhesymol at filiau’r aelwyd.

Mae Housing Justice Cymru yn cynnig llinell gymorth ar gyfer lletywyr ac yn cynnal sesiynau ar-lein i'r rhai sy'n ystyried cynnig llety er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth iddyn nhw am yr hyn sy'n ddisgwyliedig, a ph’un ai dyma’r peth iawn iddyn nhw. Nid oes gorfodaeth i wneud cais i gynnig llety yn dilyn y sesiwn.

Mae hyfforddiant pellach i'r rhai sydd wedi cofrestru hefyd ar gael. Gweler Cymorth i Letywyr - Cartrefi i Wcráin – Housing Justice ar wefan Housing Justice Cymru.

I wneud cais i gynnig llety, ewch i llyw.cymru/cynnigcartref.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau