News Centre

IAE Hire: Busnes wedi'i gynorthwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth symud o Hong Kong i Gaerffili

Postiwyd ar : 20 Ebr 2023

IAE Hire: Busnes wedi'i gynorthwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth symud o Hong Kong i Gaerffili
IAE Hire yw busnes sy'n cyflenwi, llogi a chynhyrchu systemau sgaffaldwaith i'w llogi gan fusnesau a defnyddwyr cyffredin. Symudodd perchennog y busnes, Michael Wong, a'i gyd-weithiwr Ben Williams i'r uned fusnes Tŷ Du ym mis Awst 2022 ar ôl  cael ei leoli yn Hong Kong yn wreiddiol.
 
Y llynedd, roedd ochr cynhyrchi'r busnes wedi bod yn gweithredu am dros 16 mlynedd yn Hong Kong, gyda dros 150 o weithwyr. Nawr, mae yna gynlluniau i ddatblygu cynhyrchiad yn y wlad hon. Datblygiad pwysig i'w busnes yw hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r cyfarpar a chadw'r genedl yn ddiogel wrth fod i fyny'n uchel. Mae IAE Hire wedi datblygu dyluniadau er mwyn i blatfformau sy’n cynnal llwythau gael eu defnyddio ar gyfer storio a chael mynediad hawdd at nwyddau wrth weithio i fyny’n uchel.  Maen nhw hefyd wedi cael danfoniad o dri chynhwysydd llawn nwyddau newydd wneuthuredig yn ddiweddar.
 
Bydd y busnes am apwyntio prentisiaid cyn bo hir, yn ogystal â recriwtio ar gyfer rolau gwerthiannau a chyfrifyddu.
 
Aeth Grŵp yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gyntaf yn 2022 i gynorthwyo'r busnes a oedd yn ail-leoli i Gaerffili.
 
Roedd Sarah Gaze, Swyddog Cymorth Masnach Ryngwladol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi'u helpu nhw i symud yma, dod yn aelod o Glwb Busnes Caerffili, helpu gyda chyfleoedd rhwydweithio (megis yr Hwb Adeiladu), a chyfleoedd allforio tu hwnt i Gymru. Mae Sarah hefyd wedi bod yn ffynhonnell werthfawr i ddarparu gwybodaeth a chymorth gyda mewnwelediad am gyfleoedd i gael grantiau yn y dyfodol i ddatblygu eu systemau gwerthiannau ar-lein, recriwtio a hyfforddi aelodau staff newydd.  Mae Adam Sadler, Prif Swyddog Datblygu Busnes o'r Tîm  Menter Fusnes ac Adnewyddu, hefyd wedi gweithio'n agos â nhw.
 
Meddai Ben Williams, o IAE Hire, "Mae'r buddion o'r Tîm  Menter Fusnes ac Adnewyddu wedi bod yn anferth. O'r sefydlogrwydd i fasnachu, y rhwydweithio gyda grwpiau a busnesau lleol, cymorth gyda chael gwybodaeth am grantiau, cyfleoedd ynglŷn â digwyddiadau ac arddangosfeydd, mae Sarah ac Adam wedi bod yna i'n helpu ni pontio'r bwlch i weithio mewn gwlad newydd ac i dyfu ein busnes."


Ymholiadau'r Cyfryngau