News Centre

Cymeradwyo cyllid ar gyfer estyniad ysgol

Postiwyd ar : 19 Ebr 2023

Cymeradwyo cyllid ar gyfer estyniad ysgol
Mae cyllid er mwyn symud ymlaen â chynlluniau cyffrous i ymestyn ysgol arbennig flaenllaw yn Ystrad Mynach wedi cael ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r wythnos hon.
 
Bydd y cynllun uchelgeisiol yn golygu adeiladu estyniad deulawr newydd lliwgar o fewn cynllun safle presennol yr ysgol, er mwyn darparu 80 o leoedd ychwanegol, yn ogystal â chyfleusterau ychwanegol.   
 
Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Addysg, "Mae'r Cabinet wrth ei fodd i gymeradwyo'r cynllun mawr ei ddisgwyl hwn. Mae'r cynlluniau trawiadol ar gyfer y safle yn arwydd o gyfnod newydd i'r ysgol flaenllaw hon, ac rydw i'n siŵr bydd y gymuned gyfan yn croesawu'r newyddion hyn - yn enwedig oherwydd na fydd unrhyw effaith ar y cae chwarae cyfagos o ganlyniad i'r cynllun hwn."
 
Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, groesawu'r newyddion hefyd, "Yn ôl yr addewid, mae'r datrysiad hwn yn fuddiol i bawb dan sylw – bydd yr ysgol yn manteisio ar estyniad mawr ei angen i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol, ac mae'r gymuned yn cadw man gwyrdd gwerthfawr wrth galon y pentref."
 
Mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno fel rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) Llywodraeth Cymru. 


Ymholiadau'r Cyfryngau