News Centre

Cyngor Caerffili yn datblygu'r fferm solar fwyaf yng Nghymru sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd

Postiwyd ar : 05 Ebr 2023

Cyngor Caerffili yn datblygu'r fferm solar fwyaf yng Nghymru sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd
Mae disgwyl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddatblygu'r fferm solar fwyaf yng Nghymru sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd. Dyma hefyd y Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol cyntaf dan arweiniad y Cyngor i gael ei ddilysu gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Y fferm solar 20MW ar Fferm Cwm Ifor ym Mhen-yr-heol, Caerffili, fydd y tro cyntaf i’r Cyngor fuddsoddi yn y sector ynni a’r tro cyntaf i awdurdod lleol gyflwyno cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) i Lywodraeth Cymru.

Bydd datblygu fferm solar sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd yn rhoi cyfle i’r Cyngor fynd i’r afael yn uniongyrchol ag allyriadau carbon drwy ddatgarboneiddio trydan, yn ogystal â rhoi’r cyfle i gynhyrchu incwm ychwanegol i gynnal gwasanaethau cyhoeddus lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Newid yn yr Hinsawdd, “Yn 2019, fe wnaeth y Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae’r fferm solar yn ddatblygiad cyffrous iawn ac yn un o nifer o fentrau arloesol sydd wedi'u cynllunio gan y Cyngor i leihau allyriadau carbon.

“Rydw i am ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect ac, yn enwedig, aelodau o’r gymuned leol sydd wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”


Ymholiadau'r Cyfryngau