News Centre

Coed Duon yw'r dref ddiweddaraf i lansio Wi-Fi cyhoeddus am ddim

Postiwyd ar : 24 Ebr 2023

Coed Duon yw'r dref ddiweddaraf i lansio Wi-Fi cyhoeddus am ddim
Blackwood Town Centre has become the latest town to benefit from free public access Wi-Fi.
Canol Tref Coed Duon yw'r dref ddiweddaraf i fanteisio ar fynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim. Fel rhan o ddarpariaeth ehangach sydd eisoes wedi’i chyflwyno ym Margod, Rhymni, Ystrad Mynach a Rhisga, nod y fenter yw gwella profiad ymwelwyr â’r stryd fawr drwy helpu pobl i gael mynediad at siopau ar-lein ac ymgysylltu â busnesau lleol ar-lein.

Mae mynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim eisoes wedi bod yn llwyddiant yn y pedair canol tref arall ledled y Fwrdeistref Sirol gyda’r ddarpariaeth yn cyfrannu at gymorth parhaus y Cyngor i adfywio canol ein trefi.

Mae'r fenter yn rhan allweddol o'r ymgyrch Dewis Lleol sy'n ceisio annog trigolion i #DewisLleol ac archwilio pob un o'n canol trefi allweddol i ddiwallu anghenion ymwelwyr o ran siopa ac anghenion bob dydd.
Gall trigolion gysylltu dyfeisiau mewn ardal eang yng nghanol y dref ac o'i chwmpas.

Mae'r ddarpariaeth ar gael drwy'r rhwydwaith FreeCCBCWifi. Bydd y platfform yn gofyn i chi gofrestru eich manylion, cyn i chi fewngofnodi, ond dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn.

Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae cadw pobl mewn cysylltiad wrth ddefnyddio'r stryd fawr yn hwb enfawr i ganol ein trefi. Mae'r ddarpariaeth hon yn gyfle cyffrous arall i dynnu pobl yn ôl i ganol trefi lleol.

"Mae mynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â band eang cyfyngedig neu ddim band eang o gwbl i gael mynediad at wasanaethau hanfodol ar-lein y cyngor lleol, y Llywodraeth a gwasanaethau iechyd.

"Bydd y gwasanaeth hefyd yn galluogi trigolion a busnesau lleol i ddefnyddio datrysiadau digidol i helpu gwella profiad cyffredinol ymwelwyr i bawb.

"Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n rhoi cynnig ar y gwasanaeth gwych hwn y tro nesaf byddwch chi'n ymweld â chanol ein trefi, ac rydyn ni'n falch o barhau i chwalu un o’r rhwystrau sy’n atal pobl leol rhag defnyddio busnesau lleol.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein hymgyrch Dewis Lleol, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy
 


Ymholiadau'r Cyfryngau