Neges arweinyddiaeth

Neges gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr

“Rydw i'n siŵr eich bod chi, fel ninnau, wedi'ch syfrdanu a'ch tristau gan y digwyddiadau trychinebus yn Wcráin. Mae'n wirioneddol dorcalonnus gweld cost ddynol ofnadwy'r gwrthdaro cynyddol hwn, ac rydyn ni'n sefyll mewn undod â phobl Wcráin yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.

Rydych chi, o bosibl, wedi sylwi ein bod ni wedi goleuo Tŷ Penallta a Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn lliwiau baner Wcráin i ddangos ein cefnogaeth. Mae Hysbysiad o Gynnig ffurfiol trawsbleidiol hefyd yn cael ei ystyried i ddangos cefnogaeth y Cyngor i Wcráin ac i alw am gamau pellach ac eglurder gan y Llywodraeth i helpu ffoaduriaid sydd wedi'u dadleoli gan y gwrthdaro.

Rydyn ni'n gwybod bod llawer ohonoch chi hefyd eisiau helpu, ac mae holl gynghorau Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn ymateb ar y cyd.

Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda phawb dan sylw, ac rydyn ni am roi sicrwydd i bawb y byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu.

Y Cynghorydd Philippa Marsden – Arweinydd y Cyngor, a Christina Harrhy – Prif Weithredwr