Sut gallwch chi helpu

Mae'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) yn darparu cymorth dyngarol brys i deuluoedd sy'n ffoi rhag y gwrthdaro.

Mae eich rhodd gyfan yn mynd i elusennau, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig ac Oxfam, sydd ar y ffiniau lle mae Wcreiniaid wedi ffoi – ac ar y rheng flaen yn Wcráin ei hun.

Y peth pwysicaf y gall unrhyw un ei wneud i helpu yn yr argyfwng hwn yw rhoi arian. Meddai'r Groes Goch mai rhoddion arian parod yw'r ffordd gyflymaf, fwyaf diogel a mwyaf uniongyrchol o bell ffordd o helpu pobl mewn argyfwng dyngarol. Does dim ots faint y gallwch chi fforddio ei roi – mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi arian cyfatebol am bob punt sy'n cael ei rhoi gan y cyhoedd, hyd at £20 miliwn, sy'n golygu y bydd eich cymorth chi yn mynd hyd yn oed ymhellach.

Rhoi arian i Apêl Ddyngarol Wcráin y DEC


Mae UNICEF yn pryderu yn arbennig am ddiogelwch a lles plant sydd wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, gan weithio ddydd a nos i ddiogelu teuluoedd.

Rhoi arian i UNICEF

Rhoi eitemau

 

Nid yw pawb yn gallu rhoi arian, felly, mae gan y Groes Goch gyngor gwych i bobl a hoffai roi eitemau.

Mae mudiadau lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n casglu pethau, fel dillad a blancedi, sydd yn aml â chysylltiadau â mudiadau partner yn Wcráin neu mewn gwledydd ar y ffin.

Os oes gennych chi eitemau yr hoffech chi eu rhoi, ceisiwch wneud y canlynol:

  • Chwiliwch am unrhyw elusen leol sy'n casglu eitemau
  • Holwch beth sydd ei angen ar yr elusen fel y gallwch chi roi'r eitemau cywir
  • Cyn rhoi'r eitemau, gofynnwch a yw'r elusen yn gallu cludo'r eitemau