Teitl
|
Adeiladu adeilad newydd â 420 o leoedd i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, ar ran o hen safle Ysgol Uwchradd Cwmcarn, Chapel Farm, Cwmcarn, Casnewydd NP11 7NG
|
Trosolwg
|
Mae Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol. Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a'i nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.
Fel rhan o'r rhaglen hon, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwneud cais cynllunio ar gyfer adeiladu adeilad newydd â 420 o leoedd i Ysgol Gynradd Gymraeg ar ran o hen safle Ysgol Uwchradd Cwmcarn, Chapel Farm, Cwmcarn, Casnewydd NP11 7NG. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys 60 o leoedd meithrin, 48 o leoedd gofal plant ac 16 o leoedd Canolfan Adnoddau Arbenigol ynghyd ag ardaloedd chwarae yn yr awyr agored, tirlunio helaeth a mannau parcio i fysiau a cheir presennol a newydd.
Mae’r gofyniad i ymgymryd â phroses cyn ymgynghori yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad ‘mawr’ (llawn neu amlinellol fel y’i diffinnir yn erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012). Mae'r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a'u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori.
|
Pam rydym yn ymgynghori?
|
Ymgynghoriad ailadrodd yw hwn o'r Ymgynghoriad dyddiedig 5 Gorffennaf 2021 oherwydd ni wnaethom gynnwys rhif ffôn i gysylltu i gael mynediad at y dogfennau yn yr ymgynghoriad gwreiddiol.
Ymgynghoriad statudol i gael barn y gymuned ar ddatblygiad ysgol arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.
Mae'n ofyniad statudol i sicrhau bod y cais drafft ar gael i'w adolygu a rhoi sylwadau arno cyn ei gyflwyno'n ffurfiol ar gyfer Cymeradwyaeth Cynllunio.
|
Ffyrdd o fynegi eich barn
|
Os ydych am wneud sylwadau ar y cais, e-bostiwch YmatebIYmgynghoriadCynYmgeisioCwmGwyddon@caerffili.gov.uk
Fel arall, gallwch ysgrifennu at
Adeilad Newydd Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ymgynghoriaeth Adeiladu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
Ni fydd sylwadau yn cael ymateb uniongyrchol ond, fel gofyniad statudol, bydd yr holl sylwadau'n cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, a gyflwynir fel rhan o'r Cais Cynllunio ffurfiol.
|