FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Adeilad Newydd Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon - Ymgynghoriad Cynllunio Cyn Ymgeisio

 

Teitl

Adeiladu adeilad newydd â 420 o leoedd i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, ar ran o hen safle Ysgol Uwchradd Cwmcarn, Chapel Farm, Cwmcarn, Casnewydd NP11 7NG 

Dyddiad agor

07/09/2021

Dyddiad cau

06/10/2021

Trosolwg

Mae Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol.  Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a'i nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.

Fel rhan o'r rhaglen hon, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwneud cais cynllunio ar gyfer adeiladu adeilad newydd â 420 o leoedd i Ysgol Gynradd Gymraeg ar ran o hen safle Ysgol Uwchradd Cwmcarn, Chapel Farm, Cwmcarn, Casnewydd NP11 7NG.    Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys 60 o leoedd meithrin, 48 o leoedd gofal plant ac 16 o leoedd Canolfan Adnoddau Arbenigol ynghyd ag ardaloedd chwarae yn yr awyr agored, tirlunio helaeth a mannau parcio i fysiau a cheir presennol a newydd. 

Mae’r gofyniad i ymgymryd â phroses cyn ymgynghori yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad ‘mawr’ (llawn neu amlinellol fel y’i diffinnir yn erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012). Mae'r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a'u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori. 

Pam rydym yn ymgynghori?

Ymgynghoriad ailadrodd yw hwn o'r Ymgynghoriad dyddiedig 5 Gorffennaf 2021 oherwydd ni wnaethom gynnwys rhif ffôn i gysylltu i gael mynediad at y dogfennau yn yr ymgynghoriad gwreiddiol.

Ymgynghoriad statudol i gael barn y gymuned ar ddatblygiad ysgol arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Mae'n ofyniad statudol i sicrhau bod y cais drafft ar gael i'w adolygu a rhoi sylwadau arno cyn ei gyflwyno'n ffurfiol ar gyfer Cymeradwyaeth Cynllunio.  

Dogfennau

Mae'r dolenni isod yn rhoi mynediad at ddogfennau drafft y Cais Cynllunio i gael sylwadau cyn eu cyflwyno'n ffurfiol.

Os na allwch gyrchu'r dogfennau yn electronig gallwch ofyn am gopïau o'r wybodaeth hon gan e-bostio: ymatebymgynghoriadcynymgeisiocwmgwyddon@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01495 235513

Cynlluniau Drafft

Penderfynwyd cyhoeddi'r dogfennau canlynol yn Saesneg yn unig gan eu bod yn ddogfennau technegol ac nid ystyriwyd hi'n rhesymol nac yn gymesur eu cyfieithu yn unol â Safonau'r Gymraeg.  Dogfennau technegol ydyn nhw ac maen nhw at ddefnydd dylunwyr ac adeiladwyr yn unig.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os ydych am wneud sylwadau ar y cais, e-bostiwch YmatebIYmgynghoriadCynYmgeisioCwmGwyddon@caerffili.gov.uk

Fel arall, gallwch ysgrifennu at

Adeilad Newydd Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ymgynghoriaeth Adeiladu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG

Ni fydd sylwadau yn cael ymateb uniongyrchol ond, fel gofyniad statudol, bydd yr holl sylwadau'n cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, a gyflwynir fel rhan o'r Cais Cynllunio ffurfiol.

Canlyniadau disgwyliedig

Adroddiad Ymgynghori ar gyfer Cais, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r Cais Cynllunio ffurfiol.

.