Uned 14 Ystâd Ddiwydiannol Lawns Rhymney

Cyfeiriad a Lleoliad: Uned 14, Ystâd Ddiwydiannol Lawns, Rhymney, NP22 5PW | Map

Maint: 501 troedfedd sgwâr

Y pris gofyn:  £4.50 y troedfedd sgwâr = £2,254.50 y flwyddyn + VAT

Bond: Yn cyfwerth â dau fis rhent 

Ardrethi Busnes: £0 y flwyddyn

Ymholiadau: Cysylltwch â Michael Williams ar 01443 864142 /07842 319973
  willim21@caerffili.gov.uk

Ceisiadau: Cwblhewch a dychwelyd y profforma atodedig. Ar ôl ei dderbyn, cewch wybod am gyfle i weld yr eiddo.  Gofynnir i chi hefyd gyflwyno cynllun busnes/crynodeb gweithredol a thystiolaeth o sefyllfa ariannol eich busnes.

Graddfa Amser: Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10/05/24 a bydd y Cyngor yn ymdrechu i gwblhau'r broses ymgeisio o fewn dau fis i'r dyddiad cau.

Y meini prawf allweddol a'r broses benderfynu: Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hystyried gan y Rheolwr Cefnogi Busnes a Chyllid, uwch gynrychiolwyr o Dimau Cyllid ac Eiddo Corfforaethol y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros yr Economi, Isadeiledd, Cynaliadwyedd a Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Pennaeth Adfywio a Chynllunio.

Meini prawf ar gyfer sgorio ceisiadau

<< Gweld eiddo arall sydd ar gael
Contact us
  • Email Address
  • Telephone
  • Address