Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

Gallwch gyflwyno cais i ni i gael gostyngiad ar eich bil treth y cyngor os ydych ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau.

Mae Budd-dal Treth y Cyngor a ddaeth i ben ar 1 Ebrill 2013 wedi cael ei ddisodli gan Ostyngiadau Treth y Cyngor.

 Yr hyn a gewch

 Gallwch gael hyd at 100% o ostyngiad, yn dibynnu ar y canlynol:

  •  eich amgylchiadau (er enghraifft, incwm, nifer o blant)
  • Incwm eich cartref – gallai hyn gynnwys pethau fel enillion, pensiwn, incwm eich partner
  • Os yw eich plant yn byw gyda chi
  • Os oes oedolion eraill yn byw gyda chi

Sut ydw i’n hawlio?

Os ydych eisoes yn hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac eisiau rhoi gwybod i ni am newid i’ch hawliad, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Newid mewn Amgylchiadau.

I wneud cais newydd am Ostyngiad Treth y Cyngor mae angen i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch wneud cais am Ostyngiadau Treth y Cyngor a Budd-dal Tai ar yr un ffurflen.

Dechrau cais newydd

Os caiff fy nghais ei wrthod

Os nad ydych chi'n hapus gyda'n penderfyniad ynglŷn â'ch Gostyngiad Treth y Cyngor, rhaid i chi ysgrifennu i'r Adran Budd-daliadau benefits@caerphilly.gov.uk o fewn un mis o ddyddiad eich llythyr gan nodi pam rydych chi'n credu ei fod yn anghywir.

Byddwn ni'n edrych ar eich cais eto, ac yn ysgrifennu atoch chi gyda'n penderfyniad. Os na fyddwn ni'n ymateb i chi o fewn 2 fis, neu os ydych chi'n parhau'n anfodlon â'r penderfyniad, fe gewch chi apelio at Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, (Valuation Tribunal 22 Gold Tops, Newport NP12 4PG).

Newid mewn Amgylchiadau

Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai a/neu Ostyngiadau Treth y Cyngor rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith am y newidiadau a all effeithio ar eich budd-dal/gostyngiad. Mae’r penderfyniad i ddyfarnu eich budd-dal/gostyngiad yn seiliedig ar eich amgylchiadau ar yr adeg y cyflwynwyd y cais.

Gallai methiant i roi gwybod i ni am y newidiadau hyn olygu ein bod yn talu gormod o fudd-dal/gostyngiad i chi, neu nad ydym yn talu digon i chi.

Rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

Ceisiadau am brydau ysgol am ddim

Os ydych yn derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor, gallech hefyd hawlio prydau ysgol am ddim i unrhyw blant yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Gallai hyn arbed cymaint â £400 y flwyddyn fesul plentyn i chi. Ewch i’n gwefan prydau ysgol am ddim i gael manylion.