Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Mae gennym ni darged uchelgeisiol i gynyddu nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2032. Mae camau gweithredu lefel uchel drwy gydol ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Mae’r cynllun yn amlinellu sut rydyn ni'n bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae’r cynllun yn hybu uchelgais Cymraeg 2050 o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae’r cynllun yn hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Rhaglen Lywodraethu, sef cael diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu waeth beth fo'r cyd-destun cymdeithasol-ddemograffig.

Mae’r cynllun yn cysylltu â chynlluniau a strategaethau eraill:

Cynllun Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022-2027
Strategaeth y Gymraeg 2022-2027
Cynllun Corfforaethol Caerffili 2023-2028
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.

Ein targed 10 mlynedd yw cynyddu’r lleoedd ym mlwyddyn 1 i rhwng 26% (520) o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2030/31.

Mae’r targed hwn o 26% ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn 1 erbyn 2032 wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y targed uchelgeisiol hwn, bydd angen adeiladu ysgol Gynradd newydd ac ehangu eraill i greu’r lleoedd. Bydd angen cynllun cyfathrebu arnom ni i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar leoedd. Byddwn ni'n dechrau gyda chreu darpariaeth ychwanegol mewn darpariaeth Ti a Fi a Chylchoedd yn y blynyddoedd cynnar.

Pan fyddwn ni'n ehangu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, bydd angen arnom ni ragor o bobl â sgiliau Cymraeg yn ein gweithlu ni. Mae rhagor o fanylion yn y cynllun gweithredu pum mlynedd a'r cynllun gweithredu blynyddol. Mae'r adroddiad blynyddol yn dangos y cynnydd sy'n wedi'i gyflawni bob blwyddyn.