Canolfan Drochi i Hwyrddyfodiaid

Beth os yw fy mhlentyn mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd, ac rydw i eisiau ei symud i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg?

Mae gennym ni dîm profiadol yng Nghanolfan Gwenllian. Dyma ein canolfan drochi i hwyrddyfodiaid yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod. Maen nhw’n helpu plant i ddysgu Cymraeg yn gyflym i’w cynorthwyo i bontio i addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn gyffredinol, mae hyn yn cymryd un i ddau dymor, yn dibynnu ar anghenion y plentyn. Yn ystod y cyfnod pontio, byddan nhw'n treulio amser yn eu hysgol gartref a'r Uned Drochi. Yr ysgol gartref yw'r un y gwnewch chi gais iddi ar gyfer eich addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r uned drochi i hybu caffael y Gymraeg yn ddwys.

Byddwn ni'n gweithio gyda chi gyda chludiant os oes angen.

Am ragor o wybodaeth, siaradwch â phrifathro'r ysgol cyfrwng Cymraeg rydych chi'n gwneud cais i'w mynychu.