Swyddi Tîm Peirianneg

Highway Network

Ymunwch â Chyngor Caerffili i ddatblygu'ch gyrfa chi

Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, mae gan Dîm Caerffili fwy na 8,000 o aelodau o staff sy'n helpu cymunedau i ffynnu. Rydyn ni'n weithlu mawr ac amrywiol sy'n gweithio wrth galon darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Rydyn ni'n chwilio am weithwyr proffesiynol peirianneg profiadol i ymuno â'n tîm Strategaeth Drafnidiaeth a Rheoli Datblygu a chynorthwyo'r Awdurdod i gynnal ac ehangu rhwydwaith priffyrdd y Cyngor.

Prif Beiriannydd

Cyflog: £46,549 - £49,590

Rydyn ni'n chwilio am Beiriannydd brwdfrydig a phrofiadol i arwain a rheoli tîm Strategaeth Drafnidiaeth a Rheoli Datblygu Cyngor Caerffili.

Byddwch chi'n ymuno ag un o'r awdurdodau mwyaf yng Nghymru gan weithio ar bob agwedd ar ddiogelu cyfanrwydd rhwydwaith priffyrdd y Cyngor o weithgareddau datblygwyr ac amddiffyn y Cyngor rhag rhwymedigaethau sy'n codi o ffyrdd newydd neu welliannau i briffyrdd sydd wedi cael eu hadeiladu'n anfoddhaol gan ddatblygwyr.

Gyda'ch tîm, a'r sefydliad ehangach, byddwch chi'n cael cyfle i lywio polisïau a strategaethau trafnidiaeth. Byddwch chi hefyd yn gweithredu fel rheolwr cleientiaid ar gyfer prosiectau a chynlluniau peirianneg cyfalaf trafnidiaeth penodol a gwasanaethau ymgynghori. Mae hyn yn cynnwys rheoli arian yn gymwys.

Mae hon yn rôl gyffrous ac amrywiol ac mae'n gofyn am sgiliau arwain cryf a gwybodaeth gadarn am y polisïau trafnidiaeth sy'n newid yn gyflym a gwybodaeth dechnegol ddiweddar sy'n gysylltiedig â rheoli datblygu priffyrdd a chytundebau priffyrdd.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Clive Campbell ar 01443 863106 neu e-bostio campbc@caerphilly.gov.uk

CAIS NAWR

Uwch Beiriannydd

Cyflog: £38,296 - £41,496

Mae gennym ni gyfle cyffrous i Uwch Beiriannydd ymuno â'n Tîm Strategaeth Drafnidiaeth a Rheoli Datblygu.

Fel rhan o'ch rôl chi, byddwch chi'n cynghori ar delerau cytundebau priodol gyda datblygwyr o dan adrannau perthnasol y Ddeddf Briffyrdd, trefnu archwiliadau ar waith datblygwyr ar briffyrdd a dechrau a chwblhau mabwysiadu'r rhain yn llwyr yn ogystal â chynnal Canllaw Dylunio Priffyrdd yr Awdurdod ar gyfer Datblygiadau Preswyl a Diwydiannol. 

Mae'n hanfodol bod gennych chi brofiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau trafnidiaeth, rheoli staff a chyllidebau. 

Yn y rôl hon, bydd gofyn i chi reoli, monitro a rhoi arweiniad i eraill o fewn y tîm ar faterion ariannol a thechnegol, gan gynnwys rhai o natur nad yw'n arferol.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Clive Campbell ar 01443 863106 neu e-bostio campbc@caerphilly.gov.uk

CAIS NAWR

Uwch Gynllunydd Trafnidiaeth

Cyflog: £38,296 - £41,496

Byddwch chi'n ymuno â thîm Strategaeth Drafnidiaeth a Rheoli Datblygu fel Uwch Gynllunydd Trafnidiaeth. 

Yn y rôl gyffrous ac amrywiol hon, byddwch chi'n cyfrannu at nodi anghenion, datblygu rhaglenni cyflawni a monitro darparu a rheoli ariannol ar gyfer strategaeth drafnidiaeth a chynlluniau diogelwch ar y ffyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Byddwch chi'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyfer prosiectau a chynlluniau trafnidiaeth, nodi a dadansoddi problemau priffyrdd sy'n ymwneud â thrafnidiaeth a'r amgylchedd a gweithio'n rhagweithiol i gynnig atebion arloesol i wella'r rhwydwaith. 

Yn y rôl hon, bydd gofyn i chi reoli, monitro a rhoi arweiniad i eraill o fewn y tîm ar faterion ariannol a thechnegol, gan gynnwys rhai o natur nad yw'n arferol.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Clive Campbell ar 01443 863106 neu e-bostio campbc@caerphilly.gov.uk

CAIS NAWR

Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoed

Our Vision and Values

Rydym wedi creu set o werthoedd gyda staff sy'n sail i'r model gweithredu. Maent yn gweithredu fel egwyddorion arweiniol ac yn gosod y naws ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn rhyngweithio ar bob lefel.

Arloeso: Byddwn yn grymuso ein staff i ddatblygu ymatebion arloesol a chreadigol i’r heriau maent yn eu hwynebu, mewn diwylliant diogel o barch gan y naill at y llall.

Unedig a Chysylltiedig: Rhannwn weledigaeth sy’n gwasanaethu lles pawb; byddwn yn mynd ati i gydweithredu a chyfathrebu’n fewnol mewn modd iach.

Ymddiried ynom: Byddwn yn gweithredu mewn modd credadwy a dibynadwy a byddwn yn meithrin, cefnogi a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.

Cydnerth: Byddwn yn meithrin timau a all ymateb i’r heriau a wynebwn ac ymaddasu i unrhyw amodau anodd.

Agored a Thryloyw: Byddwn yn cyfathrebu’n agored, yn rhannu gwybodaeth, yn gwrando ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau eraill, yn rhoi adborth yn brydlon ac yn dysgu o’n camgymeriadau.

Ein Model Gweithredu

Our Operating Model

Mae #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn rhaglen strategol o newid trawsnewidiol “awdurdod cyfan” a gyflawnir trwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.

Bydd angen inni symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, coleddu newid, bod yn barod i arloesi a chymryd risgiau a reolir yn dda. Bydd angen hefyd inni foderneiddio trwy fanteisio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac ymgysylltu’n llawn â’n gweithlu a’n cymunedau.

Yn ganolog i’r rhaglen newid hon fydd ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond mae hefyd yn  dangos ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd  masnachol a buddsoddi, lle bo’n briodol, i gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi

  • Diwylliant
  • Arloesedd
  • Digidol yn Gyntaf
  • Adolygiadau Gwasanaethau
  • Masnacheiddio
  • Ymgysylltu a Chymunedau
  • Cydweithio
  • Adnoddau
  • Cynllunio’r Gweithlu

Buddion a Gwobrau

Rydyn ni'n cynnig ystod eang o fentrau a threfniadau gweithio hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd i’r rhan fwyaf o’n gweithwyr ni.

Mae'r rhain wedi'u hanelu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae gweithwyr yn gallu gweithio i'w llawn botensial nhw a chyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Dolenni Defnyddiol