Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd

Mae Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn cynnwys ardal o Dde Ddwyrain Cymru sy'n cynnwys y deg awdurdod lleol; Penybont-ar-Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Chaerdydd.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £1.1bn i'r Fargen Ddinesig - sy'n cael ei gefnogi gan £120m ychwanegol wedi eu neilltuo gan y 10 awdurdod lleol sy'n bartneriaid.

Bydd y Fargen Ddinesig yn helpu rhoi hwb twf economaidd trwy wella cysylltiadau trafnidiaeth, cynyddu sgiliau, helpu pobl i gael gwaith a rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt i dyfu busnesau.

Bydd hefyd yn sefydlu llywodraethu cryf ar draws y rhanbarth trwy Gabinet Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. Drwy hyn, bydd deg arweinydd yr awdurdodau lleol yn cyfuno gwneud penderfyniadau, dod ag adnoddau at ei gilydd, ac yn bartneriaethu gyda busnesau.

Mae'r Fargen Ddinesig yn cynnwys: -

  • Buddsoddiad gwerth £1.2 biliwn yn seilwaith Rhanbarth y Brifddinas Caerdydd trwy Gronfa Fuddsoddi 20 mlynedd. Blaenoriaeth allweddol ar gyfer buddsoddi bydd y gwaith o gyflawni Metro De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys y rhaglen Trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.
  • Creu Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol anstatudol er mwyn cydlynu cynllunio trafnidiaeth a buddsoddi, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
  • Datblygu galluoedd o fewn Cymwysiadau Lled-ddargludydd Cyfansawdd. Bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi £50 miliwn i sefydlu Canolfan Catapwlt newydd yng Nghymru. Bydd Rhanbarth y Brifddinas hefyd yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu, ac yn darparu cymorth ar gyfer busnesau gwerth uchel, arloesol.
  • Bydd y Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn cael ei greu (gan adeiladu ar y trefniadau presennol) er mwyn sicrhau bod sgiliau a chyflogaeth yn ymateb i anghenion busnesau a chymunedau lleol.
  • Bydd Rhanbarth y Brifddinas a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i gyd-gynllunio cefnogaeth cyflogaeth yn y dyfodol, o 2017 ar gyfer pobl â chyflwr iechyd neu anabledd a/neu’n ddi-waith hirdymor.
  • Bydd Sefydliad Busnes Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod yna un llais ar gyfer busnes i weithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol.
  • Mae Llywodraeth Cymru a Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn ymrwymo i ymagwedd partneriaeth newydd tuag at ddatblygiadau tai ac adfywio. Bydd hyn yn sicrhau y darperir cymunedau cynaliadwy, drwy ddefnyddio ac ailddefnyddio eiddo a safleoedd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r adran Cwestiynau Cyffredin ar wefan Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.

Gwyliwch y fideo am fanteision y Fargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd arfaethedig.

Caiff yr argymhellion, ar gyfer y strategaeth economaidd yn y dyfodol ar gyfer Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, eu siapio gan ganfyddiadau'r Comisiwn Twf a Chystadleurwydd annibynnol a gadeirir gan yr arbenigwr dinas-ranbarth rhyngwladol Yr Athro Greg Clark. Mae’r Athro Clark a'i dîm o gomisiynwyr wedi bod yn casglu tystiolaeth oddi wrth arweinwyr cymunedol, busnesau a rhanddeiliaid eraill cyn cyflwyno adroddiad i Gabinet yr Wrthblaid ar y ffordd orau y gall y Fargen Ddinesig yn cael ei defnyddio er mwyn sicrhau twf economaidd ar draws y Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. Mae'r adroddiad hwn i’w lansio ym mis Tachwedd 2016.

Fargen Ddinesig ar gyfer Rhanbarth Prifddinas Caerdydd - Ymgynghoriad

I gael rhagor o wybodaeth am y Fargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ewch i www.cardiffcapitalregioncitydeal.wales neu dilynwch @CCRCityDeal ar Twitter.