News Centre

Ail-lansio Bistro Cymunedol poblogaidd yn Ysgol Gynradd Ty'n y Wern

Postiwyd ar : 28 Medi 2022

Ail-lansio Bistro Cymunedol poblogaidd yn Ysgol Gynradd Ty'n y Wern
Mae'r Bistro Cymunedol poblogaidd wedi'i ail-lansio yn Ysgol Gynradd Ty'n y Wern heddiw gyda Maer Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Elizabeth Aldworth, wrth galon yr ailagor.
 
Cyn y pandemig, roedd Bistro Ty'n y Wern yn cael ei redeg bob dydd Mercher gan ddisgyblion ar gylchdro wythnosol. Roedd y disgyblion yn cyflawni tasgau fel pobi, glanhau, delio gydag arian a sgwrsio â chwsmeriaid. Roedd y bobl ifanc wedyn yn gallu rhoi'r sgiliau rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth a gafodd eu dysgu ar waith mewn lleoliad ‘bywyd go iawn’.
 
Bydd y caffi, wedi'i ail-lansio ar gampws yr ysgol, ar agor i'r cyhoedd er mwyn dal i fyny, a chael coffi a chacen. Bydd y Bistro ar agor am luniaeth bob prynhawn Mercher rhwng 1.30pm a 3.30pm gyda mynediad i bobl anabl a chyfleusterau newid cewynnau.
 
Mae'r staff a'r disgyblion hefyd yn y broses o greu ‘Cwtsh Clyd’ a fydd yn fanc cynnes lle bydd gan gymuned ein hysgol ni fynediad at wisgoedd ‘gwisgo lan’, rheilen ailgylchu a banc bwyd bach.
 
Dywedodd Caroline ap Hywel, Uwch Arweinydd, a oedd yn rhan o lansio'r prosiect, “Rydyn ni'n llawn cyffro am ail-lansio ein Bistro Cymunedol a oedd yn mynd o nerth i nerth cyn i Covid daro. Rydyn ni'n cydnabod pa mor bwysig yw hi i gael pobl yn ôl gyda'i gilydd ac rydyn ni eisiau i'r Bistro fod wrth galon ein cymuned.
 
“Rydyn ni hefyd yn bwriadu defnyddio'r lle fel ‘banc cynnes’ bob bore gyda phaneidiau o de a thost am ddim, seddi cyfforddus a Wi-Fi cyhoeddus. Bydd Addysg Oedolion Cymru yn darparu dosbarthiadau i rieni ac aelodau'r gymuned gyda chrefft siwgr a diogelwch bwyd yn dechrau ar ddydd Gwener yn y dyfodol agos.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Mae'n wych gweld y Bistro Cymunedol gwych hwn yn cael ei ail-lansio, lle gall plant ei ddefnyddio fel lle i fwynhau eu hunain, integreiddio a chymysgu â phobl leol y gymuned.”


Ymholiadau'r Cyfryngau