News Centre

Dyddiau i fynd nes agor Ffos Caerffili

Postiwyd ar : 28 Maw 2024

Dyddiau i fynd nes agor Ffos Caerffili
Ffos Caerffili

Bydd Ffos Caerffili – marchnad hir-ddisgwyliedig mewn arddull cynwysyddion yng nghanol tref Caerffili – yn agor ei drysau i’r cyhoedd ddydd Gwener 5 Ebrill.

Yn ddiweddar, cafodd problemau adeiladu eu hachosi gan gyfnodau o law trwm ac arweiniodd hynny at ohirio'r agoriad arfaethedig ganol mis Mawrth. Er hynny, mae llawer o waith wedi’i wneud dros yr wythnosau diwethaf i sicrhau bod y prosiect yn ôl ar y trywydd iawn.

Heddiw, fe wnaeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ymweld â’r cyfleuster trawiadol i weld y cynnydd ac roedd wrth ei fodd gyda’r canlyniadau.

“Mae Ffos Caerffili wedi wynebu nifer o heriau, sydd bellach wedi’u datrys. Mae'r cyfleuster bron yn barod i'w agor ac mae ymdeimlad gwirioneddol o gyffro yn y dref. Rydyn ni'n creu lleoliad lle mae busnesau'n gallu ffynnu yng nghanol y dref. Mae hyrwyddo a datblygu cyfleoedd busnes newydd yn hollbwysig ac rydyn ni'n edrych ymlaen at agor y drysau."

Bydd y farchnad sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn ganolbwynt bywiog i’r dref ac yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035, gyda chymorth ariannol gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun wedi’i gynorthwyo gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Bydd Ffos Caerffili yn agor ei drysau ddydd Gwener 5 Ebrill am 9am.



Ymholiadau'r Cyfryngau