FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Chwilio ac olrhain ceisiadau cynllunio a gwneud sylwadau arnynt

 Mae PublicAccess for Planning yn wasanaeth ar-lein sy’n eich galluogi i wneud y canlynol:

  • dilyn hynt cais cynllunio
  • gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio cyfredol
  • chwilio drwy restr wythnosol o geisiadau
  • gweld a oes apeliadau wedi’i cyflwyno, ac unrhyw benderfyniadau a wnaed
  • gweld yr hanes cynllunio diweddar a manylion eiddo, gan gynnwys mapiau a’r cyfyngiadau sydd ar waith

Defnyddio PublicAccess

Drwy ddefnyddio PublicAccess, rydych yn derbyn y Cyfyngiadau/Amodau a nodir isod.

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn prosesu'r sylwadau a wnaethoch ar gais cynllunio er mwyn sicrhau bod eich sylwadau wedi'u hystyried wrth benderfynu ar y cais. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw i'n galluogi i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'r cais ac i roi gwybod i chi am unrhyw apêl a ddaw i law sy'n ymwneud â'r cais. 

Ni fydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi ar-lein ond bydd y ffeil gynllunio gyfan, gan gynnwys eich sylwadau, ar agor i'r cyhoedd ac efallai y bydd copïau o'ch sylwadau ar gael i drydydd parti ar gais. Ni fydd eich enw yn berthnasol i benderfyniad y cais ond bydd eich cyfeiriad yn bwysig i bennu arwyddocâd effaith y cynnig cynllunio a gellir cyfeirio ato yn y Pwyllgor/adroddiad Dirprwyedig sy'n ymwneud â'r cais. Cyhoeddir yr adroddiad hwn ar-lein. Bydd y Cyngor yn darparu copi o'ch sylwadau i'r Arolygiaeth Gynllunio os bydd apêl yn ymwneud â'r cais cynllunio yn dod i law.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth yw bod angen ei wneud ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd.

Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad at wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a'r hawl i gwyno os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau a sut rydym yn prosesu'ch gwybodaeth, edrychwch ar yr Hysbysiadau preifatrwydd (PDF).

  Rwy'n derbyn, parhau i PublicAccess

 

Cydweddoldeb Porwr

Mae fersiwn PublicAccess yn cydweddu â llawer o borwyr y rhyngrwyd, ond mae problem gyda'r fersiwn hŷn o Safari ac efallai na fydd y wefan yn hygyrch ar hyn o bryd. Rydyn ni'n gweithio i ddatrys y broblem a byddwn ni'n ceisio sicrhau bod y system ar gael cyn gynted â phosibl ar bob porwr.

Mae'n bosibl na fydd dogfennau sy'n ymwneud â cheisiadau cynllunio ar gael i'w gweld ar hyn o bryd oherwydd mae rhywbeth o'i le ar Internet Explorer. Os ydych chi'n cael trafferth agor dogfennau cynllunio, ceisiwch adnewyddu'r dudalen (F5) neu ddefnyddio porwr gwe gwahanol, fel Google Chrome. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Cyfyngiadau

Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir, mae’r wybodaeth am gynllunio a geir ar y wefan yn anghyflawn ar hyn o bryd, ac ni ddylid dibynnu arni yn hytrach na chyflawni chwiliad ‘Pridiannau Tir Lleol’ ffurfiol.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod rhai problemau o ran cywirdeb y gronfa ddata eiddo sylfaenol.  Mae’n bosibl y bydd eiddo dyblyg a hanesion dyblyg yn bodoli, felly dylech fod yn bwyllog. Nid yw’r ffiniau a ddangosir ar fapiau Arolwg Ordnans ac sy’n ymhlyg yn sgîl ceisiadau cynllunio o reidrwydd yn cyfateb â pherchenogaeth y tir.  Nid yw’r Cyngor yn cadw cofnodion am dir preifat. Dylid cyflwyno’r holl ymholiadau ynghylch perchenogaeth tir i Gofrestrfa Tir EM.

Ymwadiad

Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wallau na hepgoriadau yn y wybodaeth hanes cynllunio a geir o PublicAccess for Planning. Yn yr un modd, nid yw’r wybodaeth a geir yn PublicAccess for Planning yn gyfystyr â hysbysiad ffurfiol o benderfyniad cynllunio mewn unrhyw ffordd, ac fel y cyfryw, bydd unrhyw gamau a gymerir o ganlyniad i wybodaeth a ddangosir ar y safle yn cael eu cymryd ar fenter y gwyliwr yn llwyr.

Hawlfraint 

Mae’r cynlluniau, darluniau a’r deunyddiau a gyflwynwyd i’r Cyngor wedi’u diogelu dan y deddfau hawlfraint (Adran 47, Deddf 1988). Gallwch dim ond defnyddio deunyddiau a gaiff eu lawrlwytho a/neu eu hargraffu at ddibenion ymgynghori; i gymharu ceisiadau cyfredol â chynlluniau blaenorol ac i gadarnhau p’un a yw datblygiadau wedi’u cwblhau yn unol â’r cynlluniau cymeradwy. Rhaid peidio â gwneud copïau pellach heb gael caniatâd ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint.

Cysylltwch â ni

Rhowch eich adborth o ran y wefan hon.