News Centre

Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Postiwyd ar : 26 Ebr 2024

Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn swyddogol heddiw, ddydd Gwener 26 Ebrill 2024, ynghyd â gwesteion arbennig.

Fe wnaeth yr ysgol, sydd wedi'i lleoli ar hen safle Ysgol Gyfun Cwmcarn, agor ei drysau i ddisgyblion a staff ym mis Tachwedd y llynedd. Cafodd y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerffili a Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy'n rhan o Strategaeth Llunio Lleoedd ehangach y Cyngor.

Mae Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn gartref i tua 260 o ddisgyblion, ac mae hyn yn parhau i dyfu gyda lle yn yr ysgol bellach i addysgu 420 o ddisgyblion, yn ogystal â meithrinfa, gofal plant a chanolfan adnoddau arbennig.

Cafodd yr adeilad newydd ei adeiladu gan Andrew Scott Ltd ac roedd wedi ei ddylunio i ddarparu ar gyfer yr ysgol gynradd Gymraeg sy'n tyfu'n gyflym. Mewn cyferbyniad llwyr â'r lleoliad blaenorol, mae adeilad mawr yr ysgol yn cynnwys ystafelloedd dosbarth golau a chyfoes, ardal ddysgu a chwarae awyr agored fawr, cyfleusterau gofal plant newydd sbon a chanolfan adnoddau arbennig. Mae gwell mynediad i geir a cherddwyr, yn ogystal â pharthau dynodedig ar gyfer gollwng a chasglu, sydd i gyd yn cyfrannu at fanteision y safle drwy reoli llif y traffig yn effeithiol.
 
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, "Mae hon yn foment gyffrous sy'n amlygu cymaint sydd wedi cael ei gyflawni yma gyda gwaith caled yr ysgol a'r gymuned a chymorth y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. 

Bydd yr adeilad a'r cyfleusterau newydd yn sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau yn ogystal â chynnig cyfleoedd i'r gymuned ehangach.”

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, "Mae Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wir yn enghraifft wych o'r hyn sy'n gallu cael ei gyflawni pan fo penderfyniad ac uchelgais i wireddu breuddwyd.

Hoffwn i ganmol pawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni'r prosiect uchelgeisiol hwn, mae'r rhai oedd yn rhan ohono wedi helpu creu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf a fydd o fudd i blant lleol am genedlaethau i ddod."

Dywedodd y Pennaeth, Anita Tucknutt, hefyd, "Mae'r daith o ble ddechreuon ni, i heddiw, wedi bod yn anghredadwy. Mae'n wirioneddol anhygoel bod mewn adeilad mor brydferth wedi'i amgylchynu gan fynyddoedd Twmbarlwm, rydyn ni'n teimlo mor lwcus."

"Mae bellach gennym ni gyfle i dyfu Teulu Cwm Gwyddon gan fod gennym ni'r lle a'r cyfleusterau i groesawu ein rhieni a'r gymuned ehangach i'n hysgol anhygoel. Mae'r agoriad swyddogol yn arwydd o ddechrau taith gyffrous o dwf a datblygiad i ni, rydyn ni gyd yn llawn cyffro am y dyfodol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau