News Centre

Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd

Postiwyd ar : 07 Mai 2024

Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Mae Mr Powell o Fargod wedi cael ei gyhoeddi fel enillydd diweddaraf ymgyrch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gweddillion am Arian.
 
Mae'r ymgyrch yn golygu bod tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, i ennill £500.
 
Cafodd y fenter ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda'r nod o gynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae'n cael ei hariannu gan y sector busnes.
 
Mae holl drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gymwys i ennill y wobr ariannol ar yr amod eu bod nhw'n rhoi eu cadi ailgylchu gwastraff bwyd allan i'w gasglu.
 
Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol i bob un o’r 80,000 o gartrefi, lle mae’r gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar gyfer proses o’r enw Treulio Anaerobig, lle mae'n cael ei droi’n ffynhonnell ynni adnewyddadwy.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae Cyngor Caerffili ar hyn o bryd yn archwilio ffyrdd o hybu ein cyfraddau ailgylchu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targedau presennol a thargedau yn y dyfodol sy’n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.
 
“Yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae gennym ni ffigurau cyfranogi gwych ar gyfer ailgylchu cymysg (bin brown), fodd bynnag mae ein diffyg cyfranogi mewn ailgylchu bwyd yn cael effaith negyddol ar ein cyfraddau ailgylchu cyffredinol. Rydyn ni'n gobeithio, oherwydd ymgyrchoedd fel yr un hon a'n treial leininau cadi gwastraff bwyd am ddim, y byddwn ni'n gweld cynnydd yn y lefelau cyfranogi.
 
“Llongyfarchiadau mawr i Mr Powell am ennill y wobr. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan i gael cyfle i ennill y wobr ariannol nesaf.”
 
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd ewch i: www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd


Ymholiadau'r Cyfryngau