News Centre

Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili

Postiwyd ar : 22 Ebr 2024

Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Mae menter tai arloesol sydd wedi'i chydlynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i drawsnewid bywydau ac atal digartrefedd.

Mae prosiect Allweddi Caerffili yn helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid tymor hir ar gyfer eu heiddo, ac yn atal digartrefedd.  Ar hyn o bryd, mae 41 o landlordiaid wedi cofrestru gydag Allweddi Caerffili, gan gynnig 97 eiddo ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ers ei lansio ym mis Awst 2018, mae Allweddi Caerffili wedi llwyddo i ailgartrefu 271 o bobl.  Mae bywyd un o'r tenantiaid a gafodd ei gartrefu drwy'r prosiect wedi ei drawsnewid.  Roedd Michelle* wedi treulio amser yn y carchar, wedi'i ddilyn gan sawl mis mewn llety dros dro ac yna, oherwydd iechyd meddwl dirywiol, cafodd ei derbyn i'r ysbyty am 8 wythnos.

Pan gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty, cafodd Michelle ei hailgartrefu drwy gynllun Allweddi Caerffili, lle cafodd ymweliadau wythnosol gan weithiwr cymorth tai.  Ar ôl symud i’w heiddo newydd, dechreuodd hyder Michelle dyfu, a dechreuodd reoli ei harian a delio â’i gohebiaeth ei hun.  Cafodd ymweliadau cymorth eu lleihau wrth i annibyniaeth Michelle gynyddu.

Dechreuodd Michelle wirfoddoli mewn caffi lleol ac, yn fuan, roedd hi'n teimlo'n barod i ddychwelyd i gyflogaeth.  Mae hi bellach yn gweithio’n rhan amser i elusen leol sy’n cynorthwyo oedolion agored i niwed, gan gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol a chelf a chrefft.  Dywedodd Michelle, “Fe wnaeth y cymorth a gafodd ei ddarparu gan Allweddi Caerffili fy helpu i gyrraedd y sefyllfa rydw i ynddo nawr.  Mae fy rôl newydd wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas i mi ac wedi cael effaith gadarnhaol ar fy iechyd meddwl.”

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, Cyngor Caerffili, “Allweddi Caerffili oedd y prosiect cyntaf o’i fath gan awdurdod lleol yng Nghymru.  Mae wedi sicrhau canlyniadau gwych ac wedi atal llawer o bobl rhag dod yn ddigartref.  Mae tai yn cael effaith enfawr ar iechyd corfforol a meddyliol, ac mae stori Michelle yn dangos y gwahaniaeth enfawr mae cael cartref diogel yn gallu ei wneud i fywydau pobl.”

I gael rhagor o wybodaeth am Allweddi Caerffili, ewch i: www.caerphillykeys.co.uk/cy/, e-bostio AllweddiCaerffili@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 873564.
 
*Enw wedi cael ei newid.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau