News Centre

Cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i ysgolion uwchradd

Postiwyd ar : 13 Maw 2024

Cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i ysgolion uwchradd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi cynlluniau a allai drawsnewid addysg uwchradd yng Nghwm Rhymni Uchaf dros y blynyddoedd nesaf.

Mae bwrdd penodol o arbenigwyr wedi bod yn ystyried opsiynau ar gyfer dyfodol addysg un rhyw, yn ogystal ag edrych ar effaith lleoedd dros ben ar gyfluniad presennol ysgolion yr ardal.

Caerffili yw'r unig ardal cyngor yng Nghymru sy'n dal i weithredu ysgolion cyfun un rhyw - un yn Ysgol Lewis i Ferched yn Ystrad Mynach a'r llall yn Ysgol Lewis Pengam.

Cytunodd y Bwrdd i archwilio ffyrdd er mwyn dod â theuluoedd at ei gilydd a’u hailuno. Byddai hyn yn osgoi gwahanu rhai teuluoedd pan fydd plant yn cyrraedd 11 oed, oherwydd trefn bresennol yr ysgolion.

Mae Ysgol Lewis i Ferched ac Ysgol Lewis Pengam yn rhannu'r un dalgylchoedd, gyda llawer o deuluoedd â phlant yn y ddwy ysgol. Mae'r lleoedd dros ben yn y ddwy ysgol hefyd yn ystyriaeth allweddol, gyda 38.8% o leoedd dros ben yn Ysgol Lewis i Ferched a 41.84% yn Ysgol Lewis Pengam.

O ganlyniad, mae'r Bwrdd wedi cynnig symud oddi wrth ddarparu addysg un rhyw i gyd-addysg yng Nghwm Rhymni Uchaf. Byddai hyn yn golygu lleoli disgyblion o'r ddau safle i Ysgol Lewis Pengam, gan gadw safle Ysgol Lewis i Ferched i reoli'r pontio dros nifer o flynyddoedd.

Bydd y cynnig nawr yn mynd drwy broses benderfynu berthnasol y Cyngor ac, os yw'n cael ei gytuno, byddai’r mater wedyn yn destun ymgynghoriad ffurfiol.

Wrth ystyried demograffeg bresennol a rhagamcanol ac ansawdd amrywiol adeiladau’r ysgolion uwchradd, roedd y Bwrdd yn teimlo y byddai’n briodol lleihau nifer yr ysgolion uwchradd yng Nghwm Rhymni Uchaf (Ysgol Lewis i Ferched, Ysgol Lewis Pengam, Ysgol Idris Davies ac Ysgol Gyfun Heolddu) o bedwar i dri ac ystyried y posibilrwydd o adeilad newydd yn y cyfluniad diwygiedig hwn.

Yn amodol ar gytundeb angenrheidiol y Cyngor a chymeradwyo'r Achos Busnes gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor yn bwriadu ymgynghori'n ffurfiol ar ddatblygu ysgol uwchradd newydd ar dir gerllaw Ysgol Gyfun Heolddu ym Margod. Byddai'r cynigion hefyd yn cynnwys uwchraddio'r cyfleusterau hamdden presennol i wasanaethu'r ysgol a'r gymuned gyfagos.

“Mae’r rhain yn set gyffrous o gynigion a allai sicrhau manteision sylweddol i’n disgyblion a’r gymuned ehangach ledled Cwm Rhymni Uchaf,” meddai’r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg y Cyngor. “Rydyn ni'n dal i fod yn y camau cynnar a bydd yr holl randdeiliaid yn cael y cyfle i ddweud eu dweud wrth i ni symud drwy’r broses o wneud penderfyniadau. Byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb dros y misoedd nesaf wrth i ni fwrw ymlaen â’r cynigion uchelgeisiol hyn.”



Ymholiadau'r Cyfryngau