News Centre

Cyngor Caerffili yn cyhoeddi enillydd £500 arall ar gyfer Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd

Postiwyd ar : 20 Maw 2024

Cyngor Caerffili yn cyhoeddi enillydd £500 arall ar gyfer Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi croesawu Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd yr ymgyrch Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, drwy roi gwobr £500 i un o'i drigolion sy'n ailgylchu gwastraff bwyd.

Mae'r Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd yn digwydd rhwng 18 a 24 Mawrth ac mae'n wythnos o weithredu sy'n dod â'r genedl ynghyd i arbed amser ac arian trwy wneud y mwyaf o'r bwyd sydd gennym ni eisoes.

Mae'r thema eleni, ‘Dewiswch beth fyddwch chi'n ei ddefnyddio’, yn amlygu manteision prynu ffrwythau a llysiau rhydd ac ysbrydoli pobl i wneud hyn lle bynnag maen nhw'n gallu. Mae prynu nwyddau rhydd yn lleihau gwastraff bwyd – mae ymchwil wedi dangos pe bai’r holl afalau, bananas a thatws yn cael eu gwerthu’n rhydd, gallen ni arbed 60,000 tunnell o wastraff bwyd drwy alluogi pobl i brynu'n agosach at faint bynnag maen nhw angen.

Drwy gydol yr wythnos, bydd Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn gweithio mewn ysgolion, gyda brandiau a manwerthwyr, a gyda llunwyr polisi i wneud y newid tuag at brynu a gwerthu cynnyrch ffres yn symlach i bawb.
Cafodd Mr Robert Jenkins o Hengoed ei gyhoeddi fel enillydd ymgyrch Gweddillion am Arian y Cyngor y mis hwn. Yn rhan o'r ymgyrch, mae tai’n cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis.

Cafodd ymgyrch Gweddillion am Arian y Cyngor ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda’r nod o gynyddu nifer y trigolion sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd ar hyn o bryd. Mae'r Awdurdod Lleol yn gobeithio y byddai'r cynnydd o ran ailgylchu gwastraff bwyd yn arwain at leihau faint o sbwriel sy'n cael ei daflu, gan roi hwb i'r cyfraddau ailgylchu cyffredinol ac ategu ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a, thrwy hynny, gyfrannu at y nodau cenedlaethol a byd-eang o ran datgarboneiddio.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: “Hoffwn i ddweud llongyfarchiadau mawr i Mr Roberts am ennill y wobr.

“Er mai thema Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd eleni yw prynu’r hyn sydd ei angen arnoch chi yn unig, rydyn ni'n gwybod bod rhywfaint o wastraff bwyd fel plisg, esgyrn a bagiau te yn anochel a dylid ailgylchu’r gwastraff bwyd hwn bob amser, fel bod modd ei droi’n ffynhonnell ynni adnewyddadwy."

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd
 


Ymholiadau'r Cyfryngau