Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2024
Rydyn ni wedi symleiddio'r dulliau y gallwch chi dalu eich bil Treth y Cyngor
News Centre
Rydyn ni wedi symleiddio'r dulliau y gallwch chi dalu eich bil Treth y Cyngor
Postiwyd ar : 29 Chw 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwella llwyfan Treth y Cyngor ar-lein sydd ar gael i drigolion ei ddefnyddio i dalu eu bil Treth y Cyngor.
Mae 70% o'n trigolion yn talu eu bil Treth y Cyngor trwy ddebyd uniongyrchol, ac rydyn ni wedi gwneud y broses hon yn symlach nag erioed o'r blaen.
Gallwch chi nawr:
Sefydlu debyd uniongyrchol ar-lein, heb drafferth.
Cofrestru ar gyfer biliau di-bapur yn y dyfodol.
Debyd uniongyrchol yw'r ffordd
hawsaf
a
chyflymaf
o dalu eich bil Treth y Cyngor. Ar ôl sefydlu'r taliad, gallwch chi ymlacio – fydd dim angen i chi wneud dim byd arall.
Gallwch chi ddewis sefydlu taliadau debyd uniongyrchol sy'n addas i chi, drwy dalu naill ai ar 5ed, 15fed neu 25ain bob mis, neu drwy gynllun talu dros gyfnod o 10 mis neu 12 mis er mwyn helpu lledaenu'r gost. Gallwch chi hefyd dalu ar-lein o hyd, dros y ffôn ac yn eich swyddfa bost leol.
Pam dylech chi ystyried newid i daliadau debyd uniongyrchol? Mae tri rheswm:
Ymunwch â'r mwyafrif
– Mae 70% o drigolion eisoes wedi dechrau manteisio ar daliadau debyd uniongyrchol.
Mae'n haws nag erioed o'r blaen
– Am y tro cyntaf erioed, gallwch chi nawr sefydlu taliadau debyd uniongyrchol ar-lein. Dim galwadau ffôn, dim aros – y cyfan sydd ei angen yw eich gwybodaeth allweddol a'ch rhif Treth y Cyngor.
Cyfleustra
– Gallwch chi ffarwelio â'r straen o gadw golwg ar bethau, a defnyddio'ch amser gwerthfawr yn well.
Sefydlwch eich Debyd Uniongyrchol nawr
Dilynwch y cyfarwyddiadau gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. Cyn i chi ddechrau, bydd angen y canlynol wrth law:
Eich rhif Treth y Cyngor.
Eich cyfeiriad cartref.
Eich manylion banc.
Gallwch ddod o hyd i'ch rhif Treth y Cyngor ar eich bil Treth y Cyngor. Os ydych chi wedi colli eich bil Treth y Cyngor neu os oes angen cymorth arnoch chi, ffoniwch ni ar 01443 863002. Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer debyd uniongyrchol o’r blaen, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.
Rhag-gofrestru ar gyfer bilio di-bapur
Rydyn ni hefyd yn eich annog chi i rag-gofrestru i fynd yn ddi-bapur ar gyfer bilio Treth y Cyngor yn y dyfodol.
Bydd eich bil blynyddol yn dal i gyrraedd ar bapur ym mis Mawrth eleni
– ond wrth symud ymlaen, gan ddewis bilio di-bapur, byddwch chi nid yn unig yn lleihau eich effaith amgylcheddol, ond byddwch chi hefyd yn cael mynediad at eich bilio ar-lein.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y