Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Ras Ffordd 10 Cilomedr Caerffili
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2024
Cynorthwyo cymunedau Caerffili drwy'r argyfwng costau byw
News Centre
Cynorthwyo cymunedau Caerffili drwy'r argyfwng costau byw
Postiwyd ar : 06 Chw 2024
Mae trigolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu cynorthwyo drwy'r argyfwng costau byw diolch i fenter sydd wedi'i darparu gan yr awdurdod lleol.
Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y gwasanaeth mewn ymateb i'r pandemig Covid-19. Ers hynny, mae gwasanaeth ‘Gofalu am Gaerffili’ wedi parhau i esblygu a datblygu, gan ddarparu cymorth i’r rhai sydd ei angen.
Yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Awst 2023, cafodd tîm Gofalu am Gaerffili 6,973 o alwadau a 2,128 o e-byst yn gofyn am gymorth. Mae’r materion mwyaf cyffredin y mae’r tîm yn delio â nhw yn cynnwys ansicrwydd ariannol, dyled, iechyd meddwl, profedigaeth, problemau symud corfforol, dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol, brwydrau iechyd parhaus, allgáu digidol, costau byw, ynysigrwydd a cham-drin domestig.
Mae enghreifftiau o gymorth sydd wedi'i ddarparu gan y tîm yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys cael 744 o geisiadau llwyddiannus am daliadau tanwydd gaeaf, rhoi 797 o dalebau tanwydd, rhoi 1,648 o dalebau ar gyfer banciau bwyd a gwneud 257 o atgyfeiriadau at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
Mae tîm Gofalu am Gaerffili hefyd yn gyfrifol am gydlynu cynllun gwirfoddoli i weithwyr y Cyngor. Mae'r cynllun yn galluogi staff Cyngor Caerffili i gael eu rhyddhau o'u rôl nhw i roi o'u hamser i gynorthwyo cymunedau lleol. Trwy'r cynllun, mae gwirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cynorthwyo darparu prydau ysgol am ddim, plannu coed, paentio a chynorthwyo'r gwaith o adleoli grŵp cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau, “Mae Gofalu am Gaerffili yn gweithredu fel un pwynt cyswllt ar gyfer y rhai sy’n profi anawsterau, gyda phecyn cymorth cyfannol, sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol, yn cael ei ddarparu gan y Cyngor a’i bartneriaid.
“Mae’r fenter yn parhau i esblygu i ddiwallu anghenion newidiol ein cymunedau ni, ac mae’r ffigurau hyn yn dangos pwysigrwydd ac effaith y gwasanaeth hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth am Gofalu am Gaerffili a'r cymorth maen nhw'n ei gynnig, ewch i
www.caerffili.gov.uk
, ffonio 01443 811490 neu e-bostio
GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyhoeddi Julian Simmonds fel Maer newydd
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y