News Centre

Lansio rhaglen fuddsoddi gwerth £50 miliwn i helpu i drawsnewid Cymoedd Gogleddol De-ddwyrain Cymru

Postiwyd ar : 11 Ebr 2024

Lansio rhaglen fuddsoddi gwerth £50 miliwn i helpu i drawsnewid Cymoedd Gogleddol De-ddwyrain Cymru

Dadlennwyd rhaglen fuddsoddi newydd sydd wedi’i hanelu at symbylu twf economaidd ac effeithiau cymdeithasol yn y Cymoedd Gogleddol heddiw (yr 11eg o Ebrill, 2024).  Nod Menter y Cymoedd Gogleddol yw bod â rôl ffyniant bro cyfnod hir wrth fynd i’r afael â rhai o’r gwahaniaethau o fewn rhanbarthau sy’n bodoli o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Sefydlwyd y Fenter, sy’n werth cyfanswm o £50 miliwn, gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ac fe’i cefnogir gan Dimau Cyflenwi Awdurdodau Lleol o Flaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.  Bydd hyn yn cynorthwyo busnesau a phrosiectau sydd â’r gallu i gynyddu ffyniant yn y rhanbarth.

Canolbwyntir buddsoddiadau ar fusnesau sy’n cynnig potensial o dwf uchel a’r gallu i helpu i drawsnewid yr economi rhanbarthol.  

Gan weithredu dros gyfnod o bum mlynedd, bydd y rhaglen yn gweithredu fel catalydd ariannol i gynorthwyo busnesau sydd naill ai wedi’u lleoli yn y Rhanbarth neu sy’n dymuno adleoli dros y cyfnod hir.  Bydd grantiau a buddsoddiadau nodweddiadol sydd ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus yn amrywio o (ond heb fod yn gyfyngedig i) £100,000 i £2 filiwn.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar sectorau seilwaith, cysylltedd digidol a thwristiaeth, gan gyflenwi ystod eang o ddeilliannau yn cynnwys swyddi, adfywio ecolegol a datgarboneiddio.

Mae Menter y Cymoedd Gogleddol yn gyson ag uchelgais strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i:

  • mynd i’r afael â gwahaniaethau economaidd ac i hybu twf;
  • gwella gallu a chynhwysedd arloesi;
  • datgarboneiddio’n hamgylchedd erbyn 2050;
  • gwella’n seilwaith ffisegol a digidol.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Cadeirydd Pwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

“Gan adeiladu ar waith blaenorol yn y rhanbarth, bydd Menter y Cymoedd Gogleddol yn darparu cyfle cyffrous i ysgogi’r buddsoddiad gan y sectorau preifat a chyhoeddus, ill dau, sy’n ofynnol i gynhyrchu swyddi ychwanegol, i hybu ffyniant, i feithrin cydnerthedd cymunedol ac i helpu i ysgogi’r economi cylchol yn ardaloedd chwe awdurdod lleol: Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen”.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies:

“Mae’n newyddion rhagorol y bydd y gronfa hon, a gefnogir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn helpu i drawsnewid busnesau yn yr ardal hon.

“Canolbwyntiwn ar dyfu economi Cymru, creu swyddi a lledaenu ffyniant, ac mae busnesau fel hyn yn hollol werthfawr i wneud y nod hon yn realiti.”

Cyswllt: NVI@cardiffcapitalregion.gov.uk 



Ymholiadau'r Cyfryngau