News Centre

Ffos Caerffili yn agor i'r cyhoedd

Postiwyd ar : 05 Ebr 2024

Ffos Caerffili yn agor i'r cyhoedd
Mae'r farchnad ar ffurf cynwysyddion cludo, Ffos Caerffili, wedi agor heddiw. Bydd y dathliadau lansio yn parhau gyda rhaglen lawn o weithgareddau drwy gydol y penwythnos.

Mae agor y farchnad yn nodi'r cam cyntaf yn y Cynllun Creu Lleoedd, Tref Caerffili 2035, gyda chymorth ariannol gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae'r cynllun hefyd wedi cael cymorth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, sy'n brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dyma'r masnachwyr sydd wedi'u cadarnhau:
  • Two Shot Takeaway
  • Eco Play Box
  • Canolfan Arloesi Menter Cymru
  • Lock Up Bottle Shop
  • Castle Tackle & Bait
  • Upmarket Butchers
  • Joe's Plant Place
  • Circular Studio
  • Joy House Creations
  • Bab Haus
  • ACME Burger
  • Bao Selecta
  • Eastraneo
  • Two Shot Social
  • Keralan Karavan (dros dro bob mis)
  • Doughnutters (dros dro am y penwythnos, ac mewn uned tua diwedd y mis)
Mae Ffos Caerffili gyferbyn â'r castell, yn Park Lane – tu ôl i'r brif stryd, Cardiff Road.
Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard: “Rydyn ni'n mawr obeithio y bydd Ffos Caerffili yn lle y bydd trigolion yn ei fwynhau, ac yn mynd yno dro ar ôl tro. Cymysgedd da o fusnesau, a naws gadarnhaol, gyfeillgar y bore yma. Pob lwc i'r masnachwyr!”

Meddai gweithredwr Ffos Caerffili, Grant Jones: “Rydyn ni'n llawn cyffro am gael rhannu rhyfeddodau Ffos Caerffili â'r holl drigolion lleol.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r holl fusnesau dan sylw i gyflwyno amrywiaeth wych o fasnachwyr lleol, ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd y lle'n dod yn ganolfan fywiog a llawn bwrlwm ar gyfer gwasanaethau, cynnyrch a nwyddau o safon yng Nghaerffili cyn bo hir.”


Ymholiadau'r Cyfryngau