Swyddi Tîm Gwastraff ac Ailgylchu

Waste and recycling

Ymunwch â Chyngor Caerffili i ddatblygu'ch gyrfa chi

Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, mae gan Dîm Caerffili fwy na 8,000 o aelodau o staff sy'n helpu cymunedau i ffynnu.  Rydyn ni'n weithlu mawr ac amrywiol sy'n gweithio wrth galon darparu gwasanaethau cyhoeddus.  

Mae ein Tîm Gwastraff ac Ailgylchu ar daith gyffrous i ysbrydoli’r gymuned i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl er mwyn gwella ein hamgylchedd ni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dyma beth sydd gan y Tîm i'w ddweud

Cynghorydd Ailgylchu

Cyflog: £24,496 - £26,845

Rydyn ni am recriwtio 6 Chynghorydd Ailgylchu i ymuno â ni ar ein taith ni i gynyddu cyfraddau ailgylchu i 70% a thu hwnt.

Byddwch chi'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni'r strategaeth drwy ymweld â phreswylwyr i hyrwyddo'r gwasanaeth a nodi rhwystrau sy'n stopio pobl rhag cyfrannu at ailgylchu.

Yn y rôl gyffrous ac amrywiol hon, bydd cyfleoedd unigryw i ymgysylltu ag ysgolion a’r gymuned ehangach i hyrwyddo’r gwasanaeth ac annog newid ymddygiad parhaus.

I drafod y rôl yn fwy manwl, cysylltwch â Rhodri Lloyd ar 01443 873758 neu e-bostio lloydrj1@caerphilly.gov.uk.

Bydd cyfweliadau'n cymryd lle ar 16 a 17 Hydref 2023.

CAIS NAWR

Cynorthwyydd Technegol

Cyflog: £27,344 - £30,151

Rydyn ni am recriwtio dau Gynorthwyydd Technegol parhaol i ymuno â'n Tîm Gwastraff ac Ailgylchu.

Byd deiliaid y swyddi'n chwarae rhan bwysig wrth godi proffil y gwasanaethau sydd ar gael i drigolion gan gynnwys casglu, gwaredu a thrin gwastraff a deunyddiau ailgylchu.

Byddwch chi hefyd yn gyfrifol am adrodd ar berfformiad, ymateb i geisiadau am wybodaeth a delio â gwasanaeth yr Awdurdod i gwsmeriaid gwastraff masnachol.

Bydd cyfle hefyd i gydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau cymunedol ac asiantaethau sector i gyflawni targedau perfformiad lefel uchel.

I drafod y rôl yn fwy manwl, cysylltwch â Rhodri Lloyd ar  01443 873758 neu e-bostio lloydrj1@caerphilly.gov.uk.

Bydd cyfweliadau'n cymryd lle ar 12 a 13 Hydref 2023.

CAIS NAWR

Gweithwyr Sbwriel a Glanhau – Canolfannau Ailgylchu Gwastraff i Gartrefi  

Cyflog: £21,575 - 21,968

Rydyn ni am recriwtio 9 gweithiwr i weithio yn rhwydwaith yr Awdurdod o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff i Gartrefi.

Mae'r Awdurdod yn gweithredu 6 Chanolfan Ailgylchu Gwastraff i Gartrefi sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn, ac rydyn ni'n bwriadu recriwtio 9 person i'n helpu ni i wella perfformiad ailgylchu ar y safleoedd.

Bydd y rôl hon yn gofyn am lefel dda o sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gan y byddwch chi'n helpu preswylwyr i ailgylchu ar y safle yn effeithiol wrth waredu eitemau cartref. Hefyd, bydd disgwyl i chi wirio tystlythyrau'r rhai sy'n cyrraedd y safle ar gyfer preswyliad perthnasol a'r trwyddedau gofynnol.

Rhan allweddol o'r rôl hon yw gwella profiad cwsmeriaid a chynorthwyo gyda'r gwaith o gyflawni'r strategaeth i gynyddu cyfraddau ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol.

I drafod y rôl yn fwy manwl, cysylltwch â Scott Jones ar 01443 873732 neu e-bostio jonessl4@caerphilly.gov.uk neu Ricky Vaughan ar 01443 873753 neu e-bostio vaughr@caerphilly.gov.uk.

Bydd cyfweliadau'n cymryd lle ar 2, 3 a 4 Hydref 2023.

CAIS NAWR

Gweithwyr Sbwriel a Glanhau – Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu a Glanhau

Cyflog: £21,575 - 21,968

Rydyn ni am benodi 6 Gweithiwr Sbwriel a Glanhau i ymuno â'r Tîm Gwastraff ac Ailgylchu.

Rydyn ni'n ymfalchïo yn ein Bwrdeistref Sirol ni ac, yn y rôl hon, byddwch chi'n chwarae rhan allweddol o ran sicrhau amgylchedd glân ac iach i bobl fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Fel rhan o'ch swydd chi, byddwch chi'n ymuno â thîm sy'n darparu gwasanaethau casglu gwastraff effeithiol, ac mae hyn yn gallu cynnwys casglu biniau.

Byddwch chi hefyd yn gyfrifol am symud gwastraff, malurion ac eitemau swmpus o fannau i gerddwyr, lleiniau glas, parciau, ffyrdd, palmentydd, tir diffaith, tai ac eiddo cyhoeddus.

Bydd cyfweliadau'n cymryd lle ar 2, 3 a 4 Hydref 2023.

I drafod y rôl yn fwy manwl, cysylltwch â Scott Jones ar 01443 873732 neu e-bostio jonessl4@caerphilly.gov.uk neu Ricky Vaughan ar 01443 873753 neu e-bostio vaughr@caerphilly.gov.uk.

CAIS NAWR

Swyddog Iechyd a Diogelwch

Cyflog: £31,099 - £33,820

Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Iechyd a Diogelwch i ymuno â'n Tîm Gwastraff ac Ailgylchu.

Mae'r Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu rydyn ni'n eu darparu i drigolion yn helaeth, ac mae'n bwysig bod cydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch ar flaen y gad wrth ddarparu gwasanaethau.

Rydyn ni'n chwilio am weithiwr Iechyd a Diogelwch proffesiynol sy'n gallu sicrhau ein bod ni'n gweithredu o fewn ein polisïau, prosesau a gweithdrefnau ni a bod staff wedi'u hyfforddi'n briodol.

Bydd deiliad y rôl hon hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu fel rhan o'r Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu. 

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus goladu, cofnodi, rheoli a datblygu gwybodaeth ddata gywir sy'n cydymffurfio.

Bydd deiliad y rôl hon hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu fel rhan o'r Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu. 

Bydd cyfweliadau'n cymryd lle ar 9 a 10 Hydref 2023

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Nathan Jones ar 01443 873739 neu e-bostio jonesnj1@caerphilly.gov.uk.

CAIS NAWR

Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoed

Our Vision and Values

Rydym wedi creu set o werthoedd gyda staff sy'n sail i'r model gweithredu. Maent yn gweithredu fel egwyddorion arweiniol ac yn gosod y naws ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn rhyngweithio ar bob lefel.

Arloeso: Byddwn yn grymuso ein staff i ddatblygu ymatebion arloesol a chreadigol i’r heriau maent yn eu hwynebu, mewn diwylliant diogel o barch gan y naill at y llall.

Unedig a Chysylltiedig: Rhannwn weledigaeth sy’n gwasanaethu lles pawb; byddwn yn mynd ati i gydweithredu a chyfathrebu’n fewnol mewn modd iach.

Ymddiried ynom: Byddwn yn gweithredu mewn modd credadwy a dibynadwy a byddwn yn meithrin, cefnogi a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.

Cydnerth: Byddwn yn meithrin timau a all ymateb i’r heriau a wynebwn ac ymaddasu i unrhyw amodau anodd.

Agored a Thryloyw: Byddwn yn cyfathrebu’n agored, yn rhannu gwybodaeth, yn gwrando ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau eraill, yn rhoi adborth yn brydlon ac yn dysgu o’n camgymeriadau.

Ein Model Gweithredu

Our Operating Model

Mae #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn rhaglen strategol o newid trawsnewidiol “awdurdod cyfan” a gyflawnir trwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.

Bydd angen inni symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, coleddu newid, bod yn barod i arloesi a chymryd risgiau a reolir yn dda. Bydd angen hefyd inni foderneiddio trwy fanteisio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac ymgysylltu’n llawn â’n gweithlu a’n cymunedau.

Yn ganolog i’r rhaglen newid hon fydd ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond mae hefyd yn  dangos ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd  masnachol a buddsoddi, lle bo’n briodol, i gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi

  • Diwylliant
  • Arloesedd
  • Digidol yn Gyntaf
  • Adolygiadau Gwasanaethau
  • Masnacheiddio
  • Ymgysylltu a Chymunedau
  • Cydweithio
  • Adnoddau
  • Cynllunio’r Gweithlu

Buddion a Gwobrau

Rydyn ni'n cynnig ystod eang o fentrau a threfniadau gweithio hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd i’r rhan fwyaf o’n gweithwyr ni.

Mae'r rhain wedi'u hanelu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae gweithwyr yn gallu gweithio i'w llawn botensial nhw a chyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Dolenni Defnyddiol