Swyddi Tîm Recriwtio

Hoffech chi ymuno â Chyngor sy'n galluogi newid?

Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, mae gan Dîm Caerffili fwy na 8,000 o aelodau o staff sy'n helpu cymunedau i ffynnu. Rydyn ni'n weithlu mawr ac amrywiol sy'n gweithio wrth galon y ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

Rydyn ni'n chwilio am dîm o bobl ddynamig a blaengar i gynorthwyo gyda'n strategaeth recriwtio barhaus. Fel rhan o'ch rôl, byddwch chi'n datblygu atebion creadigol i heriau recriwtio lleol a chenedlaethol, ysbrydoli newid a chynorthwyo gydag agenda trawsnewid ehangach y Cyngor. 

Prif Swyddog Recriwtio

Cyflog: £38, 296 - £41,496

Rydyn ni'n chwilio am Brif Swyddog i ymuno â'n Tîm Recriwtio newydd.

Fel rhan o’r rôl gyffrous ac amrywiol hon, byddwch chi a'r tîm ehangach yn datblygu ymgyrchoedd recriwtio pwrpasol, yn rhwydweithio ac yn helpu darpar ymgeiswyr i ddod o hyd i waith priodol gyda'r Cyngor.

Bydd hefyd gofyn i chi roi cyngor a chymorth i reolwyr ar bob lefel sy'n ymwneud â pholisïau a deddfwriaeth cyflogaeth a materion Adnoddau Dynol eraill.   

Mae'r rôl hefyd yn golygu cymryd rhan mewn gwaith yn gorfforaethol ac o fewn Gwasanaethau Pobl i lywio dyfodol gwasanaethau llywodraeth leol.  

Byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i gynorthwyo'r tîm Adnoddau Dynol ehangach i weithredu Gwasanaeth Adnoddau Dynol rhagweithiol ac o ansawdd.

GWNEUD CAIS NAWR

Swyddog Recriwtio

Cyflog: £31,099 - £33,820

Mae gennym swyddi wag ar gyfer Swyddogion Recriwtio i fod yn rhan o'n Tîm Recriwtio. 

Byddwch chi’n cael y cyfle i gynorthwyo'r tîm i lywio'r ffordd mae'r sefydliad yn recriwtio drwy gymhwyso amrywiaeth o ddulliau, gan fod â dealltwriaeth o anghenion gweithredol gwasanaethau ar yr un pryd.

Bydd cyfle hefyd i chi gynorthwyo'r Tîm Adnoddau Dynol ehangach i weithredu Gwasanaeth Adnoddau Dynol rhagweithiol ac o ansawdd. 

Byddwch yn cael y cyfle i arwain ar brosiectau gan gynnwys cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol yn ogystal ag arferion a gweithdrefnau i wella effeithlonrwydd a darpariaeth y gwasanaeth. 

GWNEUD CAIS NAWR

Cynorthwyydd Adnoddau Dynol

Cyflog: £24,496 - £26,845

Mae gennym ni swyddi wag ar gyfer Cynorthwywyr Adnoddau Dynol i fod yn rhan o'r Tîm Recriwtio newydd. 

Yn y rôl hon, byddwch chi'n rhoi cymorth gweinyddol broffesiynol, effeithiol, effeithlon ac o ansawdd uchel i Bennaeth Gwasanaethau Pobl a'r Tîm Recriwtio i weithredu gwasanaeth recriwtio gynhwysfawr.

Bydd cyfle i chi fod yn rhan o ymgyrchoedd a mentrau newydd i gynorthwyo gyda gweithgareddau recriwtio ehangach ar draws y Cyngor.

Bydd cyfle i chi weithio gydag ac ar draws y tîm Adnoddau Dynol ehangach i ddarparu gwasanaeth di-dor i'r sefydliad.

GWNEUD CAIS NAWR

Am sgwrs anffurfiol am unrhyw un o'r swyddi gwag uchod cysylltwch â Sarena Ford Rheolwyr Cyfathrebu, fords1@caerphilly.gov.uk | 07891210485.

Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoed

Our Vision and Values

Rydym wedi creu set o werthoedd gyda staff sy'n sail i'r model gweithredu. Maent yn gweithredu fel egwyddorion arweiniol ac yn gosod y naws ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn rhyngweithio ar bob lefel.

Arloeso: Byddwn yn grymuso ein staff i ddatblygu ymatebion arloesol a chreadigol i’r heriau maent yn eu hwynebu, mewn diwylliant diogel o barch gan y naill at y llall.
 
Unedig a Chysylltiedig: Rhannwn weledigaeth sy’n gwasanaethu lles pawb; byddwn yn mynd ati i gydweithredu a chyfathrebu’n fewnol mewn modd iach.
 
Ymddiried ynom: Byddwn yn gweithredu mewn modd credadwy a dibynadwy a byddwn yn meithrin, cefnogi a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.
 
Cydnerth: Byddwn yn meithrin timau a all ymateb i’r heriau a wynebwn ac ymaddasu i unrhyw amodau anodd.
 
Agored a Thryloyw: Byddwn yn cyfathrebu’n agored, yn rhannu gwybodaeth, yn gwrando ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau eraill, yn rhoi adborth yn brydlon ac yn dysgu o’n camgymeriadau.

Ein Model Gweithredu

Our Operating Model

Mae #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn rhaglen strategol o newid trawsnewidiol “awdurdod cyfan” a gyflawnir trwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.
 
Bydd angen inni symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, coleddu newid, bod yn barod i arloesi a chymryd risgiau a reolir yn dda. Bydd angen hefyd inni foderneiddio trwy fanteisio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac ymgysylltu’n llawn â’n gweithlu a’n cymunedau.
 
Yn ganolog i’r rhaglen newid hon fydd ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond mae hefyd yn  dangos ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd  masnachol a buddsoddi, lle bo’n briodol, i gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi

  • Diwylliant
  • Arloesedd
  • Digidol yn Gyntaf
  • Adolygiadau Gwasanaethau
  • Masnacheiddio
  • Ymgysylltu a Chymunedau
  • Cydweithio
  • Adnoddau
  • Cynllunio’r Gweithlu

Buddion a Gwobrau

Rydyn ni'n cynnig ystod eang o fentrau a threfniadau gweithio hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd i’r rhan fwyaf o’n gweithwyr ni.

Mae'r rhain wedi'u hanelu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae gweithwyr yn gallu gweithio i'w llawn botensial nhw a chyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Dolenni Defnyddiol