Swyddi Tîm Tai 

Carpenter

Ymunwch â Chyngor Caerffili i ddatblygu'ch gyrfa chi

Fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, mae gan Dîm Caerffili dros 8,000 o aelodau o staff sy'n helpu cymunedau i ffynnu.  Rydyn ni'n weithlu mawr ac amrywiol sy'n gweithio wrth galon darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Rydyn ni'n chwilio am grefftwyr medrus i weithio yn ein Tîm Tai arobryn. Byddwch chi'n ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig a fydd yn eich helpu chi i ddatblygu eich gyrfa chi wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Dewch i gwrdd â'n Goruchwyliwr Gweithrediadau Atgyweirio Tai, Steve

Mae gennym ni gyfle gwych i 10 o drydanwyr ddod yn rhan o'n Tîm Cartrefi Caerffili.

Cyflog: £24,496 - £26,845 p/a

Fel aelod ymroddedig o'r tîm, byddwch chi'n cynorthwyo gyda’r gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu'r 10,600 o gartrefi cyngor sydd wedi'u lleoli yn y Fwrdeistref Sirol.

Os ydych chi wedi cwblhau unrhyw un o’r canlynol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Os ydych chi wedi cwblhau unrhyw un o’r canlynol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi:

  • • Prentisiaeth gydnabyddedig ag amser wedi'i wasanaethu
  • • Cynllun Hyfforddiant Crefft Adeiladu achrededig
  • • Cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn crefft briodol

CYSYLLTWCH Â NI

Dewch i gwrdd â'n Gosodwr Brics, Stuart

Mae gennym ni gyfle arbennig i 5 gosodwr brics ymuno â'n Tîm Cartrefi Caerffili. 

Cyflog: £24,496 - £26,845 p/a

Byddwch chi'n cyfrannu at gynnal a chadw ac adnewyddu 10,600 o gartrefi cyngor y Fwrdeistref Sirol fel aelod ymroddedig o'r tîm.

Os ydych chi wedi cwblhau unrhyw un o’r canlynol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Os ydych chi wedi cwblhau unrhyw un o’r canlynol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi:

  • • Prentisiaeth gydnabyddedig ag amser wedi'i wasanaethu
  • • Cynllun Hyfforddiant Crefft Adeiladu achrededig
  • • Cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn crefft briodol

CYSYLLTWCH Â NI

Am sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â Jason Owen

Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoed

Our Vision and Values

Rydym wedi creu set o werthoedd gyda staff sy'n sail i'r model gweithredu. Maent yn gweithredu fel egwyddorion arweiniol ac yn gosod y naws ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn rhyngweithio ar bob lefel.

Arloeso: Byddwn yn grymuso ein staff i ddatblygu ymatebion arloesol a chreadigol i’r heriau maent yn eu hwynebu, mewn diwylliant diogel o barch gan y naill at y llall.

Unedig a Chysylltiedig: Rhannwn weledigaeth sy’n gwasanaethu lles pawb; byddwn yn mynd ati i gydweithredu a chyfathrebu’n fewnol mewn modd iach.

Ymddiried ynom: Byddwn yn gweithredu mewn modd credadwy a dibynadwy a byddwn yn meithrin, cefnogi a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.

Cydnerth: Byddwn yn meithrin timau a all ymateb i’r heriau a wynebwn ac ymaddasu i unrhyw amodau anodd.

Agored a Thryloyw: Byddwn yn cyfathrebu’n agored, yn rhannu gwybodaeth, yn gwrando ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau eraill, yn rhoi adborth yn brydlon ac yn dysgu o’n camgymeriadau.

Ein Model Gweithredu

Our Operating Model

Mae #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn rhaglen strategol o newid trawsnewidiol “awdurdod cyfan” a gyflawnir trwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.

Bydd angen inni symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, coleddu newid, bod yn barod i arloesi a chymryd risgiau a reolir yn dda. Bydd angen hefyd inni foderneiddio trwy fanteisio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac ymgysylltu’n llawn â’n gweithlu a’n cymunedau.

Yn ganolog i’r rhaglen newid hon fydd ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond mae hefyd yn  dangos ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd  masnachol a buddsoddi, lle bo’n briodol, i gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi

  • Diwylliant
  • Arloesedd
  • Digidol yn Gyntaf
  • Adolygiadau Gwasanaethau
  • Masnacheiddio
  • Ymgysylltu a Chymunedau
  • Cydweithio
  • Adnoddau
  • Cynllunio’r Gweithlu

Buddion a Gwobrau

Rydyn ni'n cynnig ystod eang o fentrau a threfniadau gweithio hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd i’r rhan fwyaf o’n gweithwyr ni.

Mae'r rhain wedi'u hanelu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae gweithwyr yn gallu gweithio i'w llawn botensial nhw a chyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Dolenni Defnyddiol