Cyfarwyddwr Corfforaethol â Economi a'r AmgylcheddSwydd Pennaeth Adfywio a Chynllunio

Ydych chi am ymuno â Chyngor sy'n sicrhau newid?

Mae ein cymunedau yn newid, mae eu hanghenion yn newid ac rydyn ni'n newid hefyd!

Mae gan Dîm Caerffili dros 8,000 o staff sy'n helpu cymunedau i ffynnu. Rydyn ni'n weithlu mawr ac amrywiol, ac mae darparu gwasanaethau cyhoeddus wrth galon ein gwaith. Os ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth, ymunwch â Thîm Caerffili heddiw – rydyn ni'n well gyda'n gilydd!

GWNEWCH GAIS NAWR

Mark S.Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol â Economi a'r Amgylchedd

Mark Williams

Rydyn ni'n chwilio am arweinydd angerddol ac ymroddedig a all ymgymryd â rôl Pennaeth Adfywio a Chynllunio.

Fel un o'r awdurdodau lleol mwyaf yng Nghymru, rydyn ni'n ymfalchïo yn ein gwasanaeth adfywio a chynllunio llwyddiannus ac mae gennym ni hanes cyfoethog o gyflawni prosiectau ar raddfa fawr.

Bydd gan y rôl gyffrous hon gyfrifoldeb am amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys y canlynol;

  • Cynllunio Strategol
  • Rheoli Datblygu
  • Creu Lleoedd a Threftadaeth
  • Rheoli Adeiladau a Strwythurau Peryglus
  • Rhestr Tir ac Eiddo Lleol (LLPG)
  • Adfywio Trefol
  • Menter Fusnes ac Adnewyddu
  • Cyflogadwyedd
  • Rheoli Cyrchfannau
  • Twristiaeth a'r Celfyddydau
  • Datblygiad Economaidd

Mae'r rôl yn gofyn am ymrwymiad i feithrin perthnasoedd a datblygu partneriaethau strategol rhwng y Cyngor, cymunedau lleol a rhanddeiliaid ar gyfer Adfywio a Chynllunio, gan ddarparu cymorth gweithredol priodol ar y cyd, er mwyn cyflawni canlyniadau wedi'u rhannu sy'n cyfrannu at gyflawni amcanion y Cyngor yn y Cynllun Corfforaethol.

Mae'r portffolio amrywiol yn cynnig cyfle i lywio sut mae'r Fwrdeistref Sirol yn edrych ac yn gweithredu nawr ac yn y dyfodol.

Os ydych chi'n angerddol am ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwneud gwahaniaeth, hoffen ni glywed gennych chi.

Cysyltwch a Mark S Williams; ebost WILLIMS@caerphilly.gov.uk neu galw 01443 864948

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

Drwy ymuno â thîm Caerffili, gallwch chi ddisgwyl croeso cynnes ac amgylchedd cefnogol. Byddwch chi'n cael cyfle i weithio o bencadlys blaenllaw Tŷ Penallta, yn ogystal â mwynhau holl fanteision gweithio'n ystwyth.

Bydd gennych chi hefyd fynediad at y canlynol:

  • Cyflog cystadleuol
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Polisïau gweithio hybrid a hyblyg
  • Lwfans gwyliau blynyddol hael
  • Cyfleusterau gwefru cerbydau trydan
  • Cynllun disgownt staff
  • Cynlluniau aberthu cyflog
  • Cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy'n cynnig cymorth 24/7 

Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoed

Our Vision and Values

Rydym wedi creu set o werthoedd gyda staff sy'n sail i'r model gweithredu. Maent yn gweithredu fel egwyddorion arweiniol ac yn gosod y naws ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn rhyngweithio ar bob lefel.

Arloeso: Byddwn yn grymuso ein staff i ddatblygu ymatebion arloesol a chreadigol i’r heriau maent yn eu hwynebu, mewn diwylliant diogel o barch gan y naill at y llall.

Unedig a Chysylltiedig: Rhannwn weledigaeth sy’n gwasanaethu lles pawb; byddwn yn mynd ati i gydweithredu a chyfathrebu’n fewnol mewn modd iach.

Ymddiried ynom: Byddwn yn gweithredu mewn modd credadwy a dibynadwy a byddwn yn meithrin, cefnogi a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.

Cydnerth: Byddwn yn meithrin timau a all ymateb i’r heriau a wynebwn ac ymaddasu i unrhyw amodau anodd.

Agored a Thryloyw: Byddwn yn cyfathrebu’n agored, yn rhannu gwybodaeth, yn gwrando ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau eraill, yn rhoi adborth yn brydlon ac yn dysgu o’n camgymeriadau.

Ein Model Gweithredu

Our Operating Model

Mae #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn rhaglen strategol o newid trawsnewidiol “awdurdod cyfan” a gyflawnir trwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.

Bydd angen inni symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, coleddu newid, bod yn barod i arloesi a chymryd risgiau a reolir yn dda. Bydd angen hefyd inni foderneiddio trwy fanteisio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac ymgysylltu’n llawn â’n gweithlu a’n cymunedau.

Yn ganolog i’r rhaglen newid hon fydd ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond mae hefyd yn  dangos ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd  masnachol a buddsoddi, lle bo’n briodol, i gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi

  • Diwylliant
  • Arloesedd
  • Digidol yn Gyntaf
  • Adolygiadau Gwasanaethau
  • Masnacheiddio
  • Ymgysylltu a Chymunedau
  • Cydweithio
  • Adnoddau
  • Cynllunio’r Gweithlu

Buddion a Gwobrau

Rydyn ni'n cynnig ystod eang o fentrau a threfniadau gweithio hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd i’r rhan fwyaf o’n gweithwyr ni.

Mae'r rhain wedi'u hanelu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae gweithwyr yn gallu gweithio i'w llawn botensial nhw a chyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Dolenni Defnyddiol