Swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl

Ydych chi am ymuno â Chyngor sy'n sicrhau newid?

Mae ein cymunedau yn newid, mae eu hanghenion yn newid ac rydyn ni'n newid hefyd!

Mae gan Dîm Caerffili dros 8,000 o staff sy'n helpu cymunedau i ffynnu. Rydyn ni'n weithlu mawr ac amrywiol, ac mae darparu gwasanaethau cyhoeddus wrth galon ein gwaith. Os ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth, ymunwch â Thîm Caerffili heddiw – rydyn ni'n well gyda'n gilydd!

GWNEWCH GAIS NAWR

Prif Weithredwr, Christina Harrhy 

Tîm Caerffili – Byddwch yn rhan o rywbeth beiddgar, dewr a gwych!

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am arweinydd strategol, blaengar i ymuno â'r Tîm Rheoli Corfforaethol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r pedwerydd awdurdod mwyaf yng Nghymru fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl, gan arwain y Gyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.

Gyda chyllideb o tua £225.2 miliwn, bydd angen arweinydd arloesol ar y maes portffolio mawr i gynorthwyo rhaglen Drawsnewid barhaus y Cyngor, gan sicrhau gweithredu polisïau a darparu gwasanaethau'r Cyngor yn effeithiol ac effeithlon, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'n bwysig meddu ar ddealltwriaeth dda o Lywodraeth Leol gan ganolbwyntio’n benodol ar Feysydd Gofal Cymdeithasol a Thai.

Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd sydd â llwyddiant blaenorol o arwain a'r gallu i weithio gydag ystod o asiantaethau i gyflawni amcanion corfforaethol.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon, mae'n hanfodol meddu ar gymhwyster ôl-raddedig, yn ogystal â chymhwyster rheoli ac arwain.

Mae gennym ni becyn buddion staff hael gan gynnwys cynllun cymorth gweithwyr, arferion gweithio’n ystwyth, mynediad at gynllun pensiwn llywodraeth leol a gostyngiadau stryd fawr a hamdden i enwi dim ond rhai.

I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â’r Dirprwy Gyfarwyddwr Dave Street - 01443 863031 / streed@caerphilly.gov.uk

Cynhelir y ganolfan asesu a chyfweliadau ym mis Medi 2023.

Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan

Sean Morgan

Rydyn ni'n sefydliad amlochrog gyda'n trigolion a'n staff wrth galon y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu. O ystyried yr amgylchiadau ariannol cenedlaethol heriol iawn rydyn ni'n gweithredu ynddyn nhw, mae'n bwysicach nag erioed i sicrhau bod gennym ni reolaeth strategol gryf i sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i ddarparu'r gwasanaethau mae ein trigolion eu heisiau a'u hangen.

Rydyn ni'n edrych am unigolyn angerddol ac ymroddedig, sy'n adlewyrchu gwerthoedd ac ethos Tîm Caerffili.

Mae fy Nghabinet wedi cytuno ar raglen newid uchelgeisiol, gan gynnwys nifer o brosiectau strategol allweddol a fydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni'n gweithredu fel sefydliad. Mae gennym ni'r rhaglen Llunio Lleoedd drawiadol, ar gyfer buddsoddi cyfalaf, sy'n ceisio rhoi ffyniant i'r Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni'n aelod allweddol o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac eisiau gwreiddio ein safle strategol ymhellach yn rhanbarth y De-ddwyrain a thu hwnt. Mae sgiliau partneriaeth cryf ymhlith gofynion allweddol y rôl yma gan ein bod ni'n ymfalchïo yn ein partneriaethau cadarnhaol a phopeth rydyn ni'n ei ddarparu trwyddyn nhw.

Mae'n bwysig bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyflawni'r weledigaeth a'r arloesedd sydd eu hangen arnom ni, er mwyn parhau i ddarparu'r safonau uchaf wrth ddiwallu anghenion cynyddol a chymhleth y gymuned gyfan.

Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoed

Our Vision and Values

Rydym wedi creu set o werthoedd gyda staff sy'n sail i'r model gweithredu. Maent yn gweithredu fel egwyddorion arweiniol ac yn gosod y naws ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn rhyngweithio ar bob lefel.

Arloeso: Byddwn yn grymuso ein staff i ddatblygu ymatebion arloesol a chreadigol i’r heriau maent yn eu hwynebu, mewn diwylliant diogel o barch gan y naill at y llall.
 
Unedig a Chysylltiedig: Rhannwn weledigaeth sy’n gwasanaethu lles pawb; byddwn yn mynd ati i gydweithredu a chyfathrebu’n fewnol mewn modd iach.
 
Ymddiried ynom: Byddwn yn gweithredu mewn modd credadwy a dibynadwy a byddwn yn meithrin, cefnogi a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.
 
Cydnerth: Byddwn yn meithrin timau a all ymateb i’r heriau a wynebwn ac ymaddasu i unrhyw amodau anodd.
 
Agored a Thryloyw: Byddwn yn cyfathrebu’n agored, yn rhannu gwybodaeth, yn gwrando ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau eraill, yn rhoi adborth yn brydlon ac yn dysgu o’n camgymeriadau.

Ein Model Gweithredu

Our Operating Model

Mae #TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd yn rhaglen strategol o newid trawsnewidiol “awdurdod cyfan” a gyflawnir trwy fodel gweithredu newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.
 
Bydd angen inni symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, coleddu newid, bod yn barod i arloesi a chymryd risgiau a reolir yn dda. Bydd angen hefyd inni foderneiddio trwy fanteisio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac ymgysylltu’n llawn â’n gweithlu a’n cymunedau.
 
Yn ganolog i’r rhaglen newid hon fydd ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond mae hefyd yn  dangos ymrwymiad i ymchwilio i gyfleoedd  masnachol a buddsoddi, lle bo’n briodol, i gynhyrchu incwm y gellir ei ail-fuddsoddi

  • Diwylliant
  • Arloesedd
  • Digidol yn Gyntaf
  • Adolygiadau Gwasanaethau
  • Masnacheiddio
  • Ymgysylltu a Chymunedau
  • Cydweithio
  • Adnoddau
  • Cynllunio’r Gweithlu

Buddion a Gwobrau

Rydyn ni'n cynnig ystod eang o fentrau a threfniadau gweithio hyblyg sy’n ystyriol o deuluoedd i’r rhan fwyaf o’n gweithwyr ni.

Mae'r rhain wedi'u hanelu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae gweithwyr yn gallu gweithio i'w llawn botensial nhw a chyflawni cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Dolenni Defnyddiol