Gwasanaeth Cefn Gwlad
Does dim lle gwell na'r awyr agored i gael rhywfaint o awyr iach ac ymarfer corff. Mae ein mannau gwyrdd ni ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i gyd yn lleoedd gwych i fwynhau ein hamgylchedd naturiol bendigedig ac maen nhw ar eich stepen drws.
Os ydych chi'n defnyddio'n mannau gwyrdd yn rheolaidd ac, fel ni, rydych chi'n meddwl bod y rhain yn lleoedd bendigedig, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn helpu i roi ychydig yn ôl i'r asedau cymunedol pwysig hyn. Mae gennym ni ddiddordeb bob amser mewn clywed gan unigolion neu grwpiau a fyddai'n hoffi sbario ychydig oriau a'n helpu ni i ofalu am ein mannau gwyrdd. Gallai hyn fod naill ai fel ymrwymiad rheolaidd neu unwaith yn unig.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
- Codi sbwriel – efallai bod gennych chi ychydig eiliadau sbâr i helpu i gadw'ch hoff le yn lân
- Llenwi arolygon bywyd gwyllt – i'n helpu ni gyda rheoli ein hardaloedd bywyd gwyllt
- Arwain teithiau cerdded – mae angen arweinwyr cerdded newydd ar ein Grwpiau Cerdded Iachus a bydd hyfforddiant llawn a chymorth rheolaidd yn cael eu darparu
- Bod yn rhan o'r Fforwm Mynediad Lleol – rhoi cyngor i Gyngor Caerffili, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwella mynediad cyhoeddus i gefn gwlad ar gyfer adloniant a mwynhad yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
Rydyn ni'n gweld ein gwirfoddolwyr a'n helpwyr fel rhan hanfodol a gwerthfawr o'r gwasanaeth. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn elwa o’r berthynas gyda chi, felly byddwn ni yn:
- sicrhau bod y gwaith yn addas ac yn iawn i chi a'ch diddordebau chi
- darparu unrhyw hyfforddiant a chyfarwyddiadau angenrheidiol
- cynorthwyo a chynnig adborth rheolaidd
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Galwch heibio a siarad â cheidwad yn un o swyddfeydd y parciau neu e-bostio cefngwlad@caerffili.gov.uk.