Amgueddfa'r Tŷ Weindio
Mae gan y Tŷ Weindio grŵp Cyfeillion a Gwirfoddolwyr llewyrchus a brwdfrydig. Maen nhw'n cynorthwyo’r Tŷ Weindio mewn nifer o ffyrdd, o godi arian a hyrwyddo, i gymorth ymarferol.
Mae Cyfeillion a Gwirfoddolwyr y Tŷ Weindio yn helpu i gynorthwyo'r amgueddfa drwy:
- Weithredu fel clwb cefnogwyr i ennyn brwdfrydedd dros y Tŷ Weindio.
- Annog eraill i ddod a mwynhau'r Tŷ Weindio a chymryd rhan yn ei weithgareddau.
- Cynorthwyo i godi arian i ehangu gwasanaethau a chyfleusterau'r Tŷ Weindio.
- Cael cyfle i wirfoddoli yn y Tŷ Weindio a helpu i ddarparu gwasanaethau gwell a newydd.
- Cyfrannu at dwf a llwyddiant y Tŷ Weindio i'r dyfodol.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
Gallwch chi dderbyn yr holl fuddion yma, yn ogystal â bod yn rhan o brosiectau cyffrous a helpu gyda phob math o agweddau o'r amgueddfa:
- Tîm Blaen Tŷ - helpu i groesawu a gofalu am anghenion ymwelwyr.
- Tîm Digwyddiadau - helpu i gynnal digwyddiadau arbennig ar gyfer ein hymwelwyr.
- Tîm Dysgu - helpu i gynnal sesiynau dysgu a gweithgareddau ar gyfer ymweliadau gan grwpiau ysgol.
- Tîm Rheoli Casgliadau - cofnodi a dogfennu ein casgliad cynyddol o arteffactau.
- Tîm Cynnal a Chadw’r Injan - helpu i ofalu am ein hinjan weindio.
- Tîm Ymchwil - archwilio a hyrwyddo treftadaeth yr ardal.
- Tîm Arddangosfeydd - cyfrannu at arddangosfeydd newydd.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
Byddwch chi'n derbyn llawer o fuddion fel Cyfaill neu Wirfoddolwr y Tŷ Weindio, gan gynnwys:
- Disgownt o 10% yn Siop Anrhegion a Siop Goffi’r Tŷ Weindio.
- Rhagarddangosfeydd unigryw a derbyniadau gwin ar gyfer ein holl arddangosfeydd newydd.
- Cyfle i fod yn rhan o drafodaethau ar gynlluniau ar gyfer y Tŷ Weindio yn y dyfodol.
- Parti Nadolig Cyfeillion a Gwirfoddolwyr – cyfle i ddod ynghyd a mwynhau ychydig o hwyl yr ŵyl yn yr amgueddfa!
- Mynediad â blaenoriaeth i’n llyfrgell ymchwil a’r casgliadau ymchwil hanes teulu.
- Cyfle i fynychu ein cyfarfod blynyddol i ddarganfod sut mae eich aelodaeth wedi helpu i gynhorthwyo’r amgueddfa.
- Rhagolwg o beth sydd ar y gweill yn y flwyddyn i ddod!
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Mae ffurflenni cais neu ragor o wybodaeth am ddod yn Gyfaill neu Wirfoddolwr ar gael ar wefan y Tŷ Weindio.