Mannau Croesawgar
Mae Mannau Croesawgar (neu Canolfannau Clyd) wedi’u sefydlu ar draws y fwrdeistref i ddarparu canolfan glyd a wyneb cyfeillgar. Mae nhw wedi’u sefydlu mewn lleoliadau amrywiol fel llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi a chlybiau chwaraeon. Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth a lleoliadau’r mannau croesawgar.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
- Paratoi'r ystafell gyda byrddau a chadeiriau
- Cwrdd a chyfarch cwsmeriaid
- Cymryd archebion, gweini bwyd a diod
- Sgwrsio â phobl a chyfeirio at wasanaethau pan fo angen
- Bod yn rhan o bwyllgor y grŵp sy’n rhedeg y Mannau Croesawgar
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
- Cwrdd a chymdeithasu gyda phobl newydd
- Mynediad at hyfforddiant priodol
- Bod yn rhan o dîm cefnogol
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Cysylltwch â Gofalu am Gaerffili
E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443811490