Gofal preswyl i blant
Mae ein cartrefi preswyl i blant yn darparu gofal therapiwtig, pwrpasol sy’n ystyriol o drawma.
Rydyn ni’n cynnig lle diogel i blant a phobl ifanc i fyw, cyhyd ag y bo angen, a byddwn ni’n eu helpu nhw i weithio trwy eu trawma nhw mewn partneriaeth â’r tîm MyST.
Mae ein staff ni’n hynod feithringar ac yn ymroddedig i’w rolau ac yn deall yr angen ar gyfer ffiniau a dull cyson.
Rydyn ni’n darparu cartref cariadus i blant a phobl ifanc, sefydlogrwydd ac atgofion y gallen nhw eu trysori am byth.
Derbyn gofal
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i blant, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.