Gofal seibiant

Mae tîm Gofal Seibiant Plant Caerffili yn darparu gwasanaethau gofal seibiant i blant a phobl ifanc rhwng 4 a 18 oed sydd ag anableddau dysgu.

Rydyn ni'n helpu teuluoedd a gofalwyr i gael egwyl o'u rôl ofalu ac mae ein lefelau staffio yn sicrhau bod pob person ifanc yn cael gwasanaeth personol o safon.

Mae'r gwasanaeth yr ydyn ni'n ei ddarparu yn seiliedig ar anghenion plant a phobl ifanc unigol. Rydyn ni'n eu helpu nhw i wneud dewisiadau hyd yn oed os ydyn nhw'n fach.

Rydyn ni'n annog cyfeillgarwch a gweithgareddau yn ogystal â hybu datblygiad sgiliau ac amcanion personol ac ymarferol.  

Sut i gael help a chefnogaeth

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i blant, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.