Timau ardal

Mae timau ardal y Gwasanaethau i Blant yn helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd, lle bynnag y mae'n ddiogel i wneud hynny, trwy ddarparu gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar.

Mae chwe thîm sydd wedi'u lleoli'n ddaearyddol, sy'n cynnal asesiadau o ansawdd uchel a gwaith rheoli gofal plant a'u teuluoedd, sydd angen ymyrraeth gwasanaethau cymdeithasol parhaus ar ôl cael eu hasesu.

Rydyn ni'n ymdrin â gwaith tymor byr a thymor hir, gan gynnwys Plant sydd Angen Gofal a Chymorth, Plant sy'n Derbyn Gofal, Amddiffyn Plant a gwaith llys a mabwysiadu.

Rydyn ni'n rheoli risg yn hyderus ac yn rhoi cymorth i blant sydd ‘ar ffiniau gofal’ ac yn rhoi llwybrau gofal sydd wedi'u cynllunio'n glir i blant a phobl ifanc, sy'n parhau i ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau, atal llithriant a chaniatáu ailuno.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i blant, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.