Ffrindiau a theulu
Mae Tîm Teuluoedd a Ffrindiau Caerffili wedi ymrwymo i weithio gyda phlant a'u teuluoedd, lle maen nhw wedi'u gwneud yn destun Gorchymyn Gofal, Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig neu Orchymyn Goruchwylio a'u cynllun nhw yw parhau i fyw gydag aelod o'r teulu yn y tymor hir.
Gallai hwn fod yn rhiant y maen nhw'n byw gydag ef/hi o dan y Rheoliadau Lleoli Plentyn mewn Gofal gyda Rhiant, neu berthynas neu ffrind sydd wedi bod yn destun asesiad unigolyn cysylltiedig.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i blant, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
Cafodd y tîm ei ffurfio gyda'r bwriad o leihau nifer y plant sy'n Derbyn Gofal. Rydyn ni'n gweithio gyda theuluoedd gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfder.
Rydyn ni'n darparu cymorth i deuluoedd sy'n gofalu am blant o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig ac yn gwneud ceisiadau i'r llys am gyflawni Gorchmynion Gofal neu i drosi Gorchmynion Gofal yn Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.