Cartref Gofal Bargod

Heol Fargoed, Bargoed, CF81 8PQ.
Ffôn: 01443 879005
E-bost: manager@bargoedcare.co.uk

Adroddiad Monitro Cytundeb

Enw/Cyfeiriad y Darparwr: Cartref Gofal Bargod
Dyddiad/Amser yr ymweliad: 9 Rhagfyr 2021, 30 Mawrth 2022 a 5 Mai 2022
Swyddog(ion) Ymweld: Caroline Roberts, Swyddog Monitro Contractau, Sherry Lewis, Prif Nyrs Llywodraethu a Diogelu Cartrefi Gofal, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Yn bresennol: Kelly Whittington-Gidley, Rheolwr Cofrestredig

Cefndir

Mae Cartref Gofal Bargod wedi'i gofrestru i ddarparu gofal preswyl a nyrsio i 45 o bobl dros 18 oed. Mae'r cartref yn eiddo i Omnia Care Home Group, a gymerodd berchnogaeth ar y cartref ym mis Tachwedd 2020. Yr Unigolyn Cyfrifol (UC) yw Mr Tariq Mahmood Khan.

Mae Rheolwr y Cartref wedi'i chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae ganddi gymhwyster Arweinyddiaeth Lefel 5, Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Preswyl i Oedolion).

Oherwydd nifer yr ymweliadau a gynhaliwyd yn y cartref, roedd nifer y preswylwyr yn ystod pob ymweliad yn amrywio.

Cynhaliodd AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) arolygiad ym mis Chwefror 2022, a chyhoeddwyd eu hadroddiad ym mis Mai 2022, sydd ar gael drwy eu gwefan.

Cynhaliwyd yr ymweliad monitro llawn diwethaf gan y Swyddog Monitro yn 2018. Yn ystod yr ymweliad, rhoddwyd camau adfer a datblygu. Oherwydd pandemig Covid, ni chynhaliwyd ymweliadau blynyddol rheolaidd.

Ers yr ymweliad monitro diwethaf, mae'r cartref wedi'i reoli gan dîm rheoli sefydlog ac mae wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'r ffordd y mae'r cartref yn cael ei redeg; ga wella ansawdd bywyd yr unigolion sy'n byw yn y cartref.

Mae Swyddog Monitro yn defnyddio amrywiaeth o systemau monitro i gasglu a dehongli data fel rhan o ymweliadau monitro, gan gynnwys arsylwi arferion yn y cartref, archwilio dogfennaeth a sgyrsiau gyda staff, defnyddwyr gwasanaeth a pherthnasau lle bo'n bosibl.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, rhoddir camau adfer a chamau datblygu i'r darparwr eu cymryd.

Camau adfer yw’r rhai sy’n rhaid eu cyflawni (yn unol â deddfwriaeth) ac mae camau datblygu yn argymhellion arfer da.

Argymhellion Blaenorol (2018)

Adfer

Rhaid i Gynlluniau Gofal gael eu llofnodi gan yr unigolyn, i ddangos eu bod wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi'r Cynllun Personol a bod eu barn, eu dymuniadau

a'u teimladau unigol wedi cael eu hystyried. Cynlluniau Symud a Thrafod ar waith ac wedi'u diweddaru a'u cynnal yn gyson i adlewyrchu'r anghenion presennol. (Rheoliad 15 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA)). Canlyniad WEDI’I FODLONI

Os bydd unigolyn yn gwrthod defnyddio cyfarpar, sicrheir ei ganiatâd a'i ddogfennu i ddiogelu'r unigolyn a'r staff. (Rheoliad 15 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). CANLYNIAD - WEDI'I FODLONI

Dylid atgoffa gofalwyr am eu cyfrifoldeb wrth reoli a gweinyddu meddyginiaeth croen a'r polisi meddyginiaeth. (Rheoliad 58 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). CANLYNIAD - WEDI'I FODLONI

Sicrhau bod gofal y geg yn cael ei gynnal a'i gofnodi gan y staff gofal. (Rheoliad 21 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). CANLYNIAD - WEDI'I FODLONI

Goruchwyliaeth/arfarniadau i gael eu cynnal yn brydlon.

(Rheoliad 36 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). CANLYNIAD - WEDI'I FODLONI

Pan fydd person a benodir i swydd wedi'u cofrestru gyda gwasanaeth diweddaru'r DBS, rhaid i'r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif DBS y person o leiaf unwaith y flwyddyn.

(Rheoliad 35 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). CANLYNIAD - WEDI'I FODLONI

Dylid cynnal gwiriadau pe bai anghysondebau o ran cyflogaeth yn cael eu nodi. (Rheoliad 35 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). CANLYNIAD - WEDI'I FODLONI

Dylid cwblhau adroddiad sicrhau ansawdd blynyddol erbyn diwedd y flwyddyn galendr (cymal contract CBSC 42.6) CANLYNIAD - WEDI’I FODLONI

Camau datblygu

Dylai cofnodion cyfarfodydd tîm nodi enw'r cadeirydd, y sawl sy'n cadw cofnodion a'r rhai sy'n bresennol. Mae'n arfer da sicrhau bod taflen lofnodi ar gefn y cofnodion i ddangos bod pob cyflogai wedi gweld y materion a drafodwyd.

Canlyniad – HEB EI FODLONI. Trafodwyd gyda Rheolwr y Cartref a ddywedodd nad yw cofnodion cyfarfodydd tîm yn cael eu llofnodi; ond y cânt eu rhannu gyda'r staff. Mae gan y cartref broses lle dewisir polisi bob mis, a rhennir hyn gyda holl dîm y staff, ac mae'n rhaid iddynt ddarllen a llofnodi i ddangos eu bod wedi darllen y polisi.

Adolygu ffurflenni DNACPR bob blwyddyn a dogfennu tystiolaeth o'r trafodaethau yn glir. CANLYNIAD - WEDI'I FODLONI

Canfyddiadau

Dogfennaeth

Ers newid perchnogaeth yn 2020, mae'r cartref wedi symud ymlaen i gofnodi electronig ac mae'n defnyddio rhaglen Eresman. Datblygwyd y system gyda chyfraniad y tîm rheoli a'r tîm staff. Mae'r system yn hawdd ei defnyddio ac yn cofnodi'r holl ddogfennau priodol sydd eu hangen.

Fel rhan o'r broses fonitro, archwiliwyd ffeiliau dau breswylydd. Er bod gan un ffeil asesiad cyn derbyn, nid oedd yr ail ffeil yn dangos bod un wedi'i gwblhau.

Roedd y cynlluniau personol a welwyd ar gyfer y ddau unigolyn yn dangos bod y preswylwyr wedi cymryd rhan yn y gwaith o lunio'r cynlluniau.

Roedd y ddwy ffeil a welwyd yn adlewyrchu'r meysydd a nodwyd yn y cynlluniau personol unigol a gwelwyd eu bod yn cael eu hadolygu'n fisol, yn unol ag arfer da.

Wrth edrych ar y ddwy ffeil, roedd yn amlwg bod y staff yn wybodus o ran pa weithwyr proffesiynol priodol y dylid cysylltu â nhw pe bai'r angen yn codi h.y. Meddyg Teulu, Tîm Cwympiadau, Optegwyr.

Roedd un ffeil a welwyd yn cynnwys Peidiwch â Cheisio Adfywio Cardio- pwlmonaidd (DNACPR). Er nad oedd cynllun diwedd oes ar yr ail ffeil, roedd yn gadarnhaol nodi bod sgwrs wedi'i chynnal gyda'r unigolyn a'r teulu, a chytunwyd i gysylltu â'r meddyg teulu i drafod yn fanylach a chwblhau'r dogfennau priodol.

Nid oedd yr un o’r ddwy ffeil a welwyd yn nodi hanes bywyd y person; felly, ni fyddai gan aelodau newydd o staff yr ymdeimlad o adnabod yr unigolyn.

Gwelwyd Asesiadau Risg ar gyfer y ddau unigolyn h.y. Cwympiadau, Cloch Galw, Waterlow, Rheiliau Gwely.

Gwelwyd bod cofnodion dyddiol wedi'u cwblhau, gan nodi pryd y mae aelodau'r teulu'n ymweld, beth sydd wedi'i wneud yn ystod y dydd. Fodd bynnag, nid oedd y

cofnodion yn cyfeirio at hwyliau'r unigolyn a'r hyn y mae staff yn ei wneud i wella hwyliau rhywun pe bai'n isel.

Ceir tystiolaeth o nodau a chanlyniadau, megis cynnal annibyniaeth, hyrwyddo amgylchedd tawel ar gyfer cysgu, bod yn rhan o unrhyw broses o wneud penderfyniadau, hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol oherwydd hwyliau isel.

Gwelwyd PEEPS (Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng) ac roedd gan y ddwy ffeil luniau o'r unigolion.

Gweithgareddau

Gwelwyd bod y Cydgysylltydd Gweithgareddau yng Nghartref Gofal Bargod bob amser yn llawn brwdfrydedd. Roedd adloniant allanol wedi'i ohirio oherwydd y pandemig ond yn ystod un ymweliad, ymwelodd un canwr â'r cartref a mwynhaodd y preswylwyr, a oedd yn cadw pellter cymdeithasol, brynhawn o ganu. I'r rhai sy'n derbyn gofal yn y gwely, mae'r Cydgysylltydd Gweithgareddau yn ymweld â nhw ac yn darparu rhyngweithio un i un h.y. tylino dwylo, sgyrsiau, darllen/canu ac ati.

Arddangosir gweithgareddau wythnosol ar yr hysbysfwrdd i bawb eu gweld, ynghyd â ffotograffau o'r preswylwyr yn mwynhau'r gweithgareddau. Nodwyd bod y calendr gweithgareddau wedi'i boblogi gyda llawer o weithgareddau wedi'u trefnu fel perfformwyr, gwasanaethau, a diwrnodau allan posibl (os yw'r tywydd yn caniatáu). Mae'r cartref hefyd yn brysur yn paratoi ar gyfer Jiwbilî’r Frenhines.

Mae'r cartref yn parchu credoau crefyddol unigol a bydd yn ymdrechu i wneud apwyntiadau gyda'r unigolyn priodol i gynnig gwasanaethau gweddi.

Staffio

Mae lefelau staffio yn seiliedig ar lefelau dibyniaeth. Yn ystod y sifft ddydd, mae gan y cartref fel arfer 1 Nyrs, 1 Ymarferydd Cynorthwyol Cartref Gofal ac 8 aelod o staff gofal tan 1:30 p.m. yna mae 7 gofalwr. Yn ystod y sifft nos, mae 1 nyrs a 4 gofalwr ar ddyletswydd. Yn ystod y dydd, mae Rheolwr y Cartref yn bresennol ynghyd â gweinyddwr a Chydlynydd Gweithgareddau'r cartref.

Mae goruchwyliaeth ac arfarniadau staff wedi gwella o dan y tîm rheoli sefydlog ac fe'u cynhelir bob tri mis, ynghyd â gwerthusiadau blynyddol.

Defnyddir staff asiantaeth ac mae Rheolwr y cartref yn gyfrifol am gael proffil o nyrs yr asiantaeth a sicrhau eu bod yn derbyn pecyn sefydlu. Cyfrifoldeb y Rheolwr yw sicrhau bod gan nyrsys asiantaeth PIN dilys i ymarfer.

Edrychodd y swyddog ymweld ar ddwy ffeil staff a chanfu fod y ddwy ffeil o safon uchel. Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys dogfennau priodol h.y. ceisiadau am swyddi wedi'u cwblhau, disgrifiadau swydd, cofnodion cyfweliad (y system sgorio a ddefnyddiwyd), contractau cyflogaeth wedi'u llofnodi, gwiriadau DBS, 2 eirda, lluniau o'r aelod o staff, rheoliadau amser gweithio wedi'u llofnodi (1998). Roedd y ffeiliau mewn cyflwr rhagorol, gyda mynegai ar y dechrau i gynorthwyo'r darllenydd.

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn gyfrifol am gynhyrchu adroddiadau chwarterol a dywedodd fod adroddiadau'n cynnwys sicrhau bod staff yn gwisgo gwisg briodol, yn gwisgo PPE priodol, bod staff yn derbyn cymorth priodol gan y tîm rheoli, rhyngweithiadau â phreswylwyr, arsylwi gwaith addurno y tu mewn a'r tu allan, gan sicrhau bod polisïau ar waith a bod yr holl staff yn glynu wrthynt, ac nid oes unrhyw beryglon yn unrhyw ran o'r cartref ac ati. Caiff unrhyw faterion adfer eu cofnodi a'u trafod gyda Rheolwr y Cartref ar gyfer gweithredu arnynt.

Cynhelir archwiliadau misol rheolaidd h.y. Atal a Rheoli Heintiau, Meddyginiaeth a MAR (Cofnod Rhoi Meddyginiaeth) sy’n cael eu cynnal yn wythnosol, Iechyd a Diogelwch, rheiliau gwely, wlserau a chlwyfau pwysau a ffeiliau gofal. Nodwyd bod gan bob un ohonynt ganlyniadau da.

Edrychwyd ar gofnodion cyfarfod y preswylwyr a thrafodir pynciau fel digwyddiadau/gweithgareddau, bwyd/bwydlen, gwelliannau ac ati.

Mae gan y cartref Ddatganiad o Ddiben a Chanllaw Defnyddiwr Gwasanaeth cyfredol, sy'n egluro i'r preswylwyr y gwasanaeth y mae'r cartref yn ei gynnig a'r hyn y gallant ei ddisgwyl gan y darparwr.

Mae unrhyw ddamweiniau sy'n digwydd yn y cartref yn cael eu cofnodi ar Datix ac, os yw'n berthnasol, caiff ffurflen Dyletswydd i Adrodd ei llenwi a'i rhannu â Thîm Diogelu'r Awdurdod Lleol am gyngor.

O ran eiriolaeth, mae preswylwyr yng Nghartref Gofal Bargod yn cael eu cefnogi'n gyffredinol gan deulu/ffrindiau; fodd bynnag, roedd y Rheolwr Cartref yn ymwybodol o sut i gael gafael ar eiriolaeth ar gyfer unigolyn pe bai angen.

Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw breswylwyr â diagnosis o ddementia. Nid oes gan y cartref hyrwyddwr dementia.

Dywedodd y Rheolwr, yn ystod yr ymweliadau, pe bai unigolyn yn cymryd meddyginiaeth nad oes ei hangen arno, y byddai'n gwybod pa weithdrefn i'w dilyn ac eglurodd y byddai'n gofyn am adolygiad o feddyginiaeth.

Trafod â'r staff a'r preswylwyr

Cynhaliwyd sgyrsiau gyda'r staff yn ystod yr ymweliadau a dywedodd y staff y byddai Rheolwr y Cartref a'r Dirprwy Reolwr yn cynorthwyo, yn ôl yr angen, ac weithiau'n cyflenwi sifftiau pe bai lefelau staffio'n disgyn oherwydd Covid. Gwelwyd bod y staff yn rhyngweithio'n dda ag unigolion ac roedd ganddynt wybodaeth am y rhai yr oeddent yn eu cynorthwyo.

Roedd dwy fenyw yn y lolfa ar y llawr canol yn hapus i sgwrsio â’i gilydd ac yn hapus i sgwrsio â'r Swyddog Monitro. Dangosodd un fenyw y blanced crochet a wnaed gan eu mam i'r Swyddog Monitro, a oedd yn amlwg â gwerth sentimental mawr. Dangosodd menyw arall y lluniau yr oedd wedi'u lliwio ar yr iPad.

Yn ystod un o'r ymweliadau, roedd un unigolyn wedi nodi bod y pryd amser cinio yn oer a thynnwyd sylw Rheolwyr y Cartref at hyn, a oedd yn ymwybodol o'r mater ac yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Fodd bynnag, nid oedd gan y preswylwyr eraill y siaradwyd â hwy unrhyw gwynion am y prydau bwyd ac yn eu disgrifio fel rhai "gwych". Yn y lolfa, roedd byrddau wedi'u gosod allan i'r preswylwyr eistedd a mwynhau eu profiad amser bwyd; fodd bynnag, dewisodd dwy fenyw aros yn eu

seddi i fwyta ac eraill yn bwyta yn eu hystafelloedd. Gosodwyd llieiniau bwrdd ac addurn canol ar y byrddau, ynghyd â bwydlen. Roedd yn gadarnhaol nodi bod unigolion yn cael dewis ble i fwyta.

Adborth gan Deuluoedd

Cysylltwyd dros y ffôn ag aelod o'r teulu, a eglurodd fod eu perthynas wedi mynd i Gartref Gofal Bargod am gyfnod seibiant. Fodd bynnag, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i wneud y lleoliad yn un tymor hir oherwydd bod y preswylydd yn ymgartrefu'n dda yn y cartref.

Dywedodd yr aelod o'r teulu fod y cartref yn agored ac yn dryloyw a bod gweinyddwr y cartref wedi bod yn help mawr i gynorthwyo gyda dogfennau amrywiol ac ati.

Ni chodwyd unrhyw gwynion na phryderon yn ystod y sgwrs a dywedodd yr aelod o'r teulu fod aelod arall o'r teulu yn ymweld ddwywaith yr wythnos oherwydd eu bod yn byw i ffwrdd; nid oes ganddynt hwythau unrhyw bryderon.

Dywedwyd bod y cartref yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r perthynas am bopeth h.y. newid mewn meddyginiaeth, rhoi mat synhwyrydd ar waith er diogelwch ac ati. Dywedodd yr aelod o'r teulu fod y staff yn "wyliadwrus iawn" a dywedodd fod eu perthynas yn "hapus iawn yno".

Mae'r preswylydd wedi dweud wrth aelod y teulu eu bod yn cyd-dynnu'n dda â'r staff gofal a'u bod yn gefnogol iawn.

Diogelwch Tân/Iechyd a Diogelwch

Mae cwmni allanol yn ymweld â'r cartref i gynnal asesiad tân blynyddol. Roedd un wedi'i drefnu ar gyfer mis Mawrth 2022; fodd bynnag, oherwydd Covid 19, bu'n rhaid aildrefnu'r asesiad ar gyfer mis Ebrill 2022. Gwnaed dau argymhelliad o'r ymweliad a dywedodd Rheolwr y Cartref fod gwaith adfer yn cael ei wneud i fodloni'r rheoliadau mewn modd amserol.

Rheoli Arian Preswylwyr

Wrth reoli arian sy'n dod i mewn/allan o'r cartref, ceir dau lofnod, sef y Rheolwr a'r gweinyddwr fel arfer. Ceir llofnodion y preswylydd a/neu aelodau o'r teulu hefyd. Edrychodd y Swyddog Monitro ar y dogfennau a'r system electronig briodol a ddefnyddir gan weinyddwr y cartref.

Cyffredinol

Canfuwyd bod ystafelloedd y preswylwyr wedi'u haddurno ag eiddo personol, lluniau o'r teulu, clustogau, addurniadau ac ati. Roedd gan y rhan fwyaf o'r ystafelloedd flychau cof wedi'u cysylltu â'r waliau wrth eu drws, a oedd wedi'u crefftio â llaw gan y Rheolwr Cartref. Mae hyn yn galluogi'r preswylwyr i adnabod eu hystafelloedd yn hawdd ac yn cynnig sbardun i'r staff ac ymwelwyr sgwrsio.

Mae'r cartref wedi gwneud rhywfaint o ailaddurno mewnol; gan wneud y cartref yn ddeniadol ac yn gynnes. Mae'r cyntedd (llawr canol) yn agored, yn olau ac yn braf ac fe'ch cyfarchir gan weinyddwr y cartref wrth gyrraedd. Cynhelir gwiriadau priodol cyn mynd i mewn i'r cartref h.y. cyflwyno canlyniad profion llif unffordd, gwiriadau tymheredd ac ati. Mae cadeiriau cyfforddus yn y cyntedd, pe bai preswylwyr yn dymuno cwrdd â'u hymwelwyr yno. Mae system electronig (T.V.) y tu ôl i ddesg y gweinyddwr, sy'n dangos aelodau'r staff ar shifft ac unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n ymweld.

Mae gardd gan y cartref lle gall preswylwyr fwynhau eistedd allan a mwynhau garddio gyda'r Cydlynydd Gweithgareddau yn ystod y misoedd cynhesach.

Cefnogir y cartref gan 2 swyddog cynnal a chadw, sy'n gyfrifol am wirio'r dŵr, archwiliadau tân (drysau, goleuadau ac ati) a gwaith cynnal a chadw cyffredinol y cartref.

Mae'r cartref yn gweithredu'r Cynnig Rhagweithiol (darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano) ac mae ganddo 2 aelod o staff sy'n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae 1 preswylydd yn siarad Cymraeg ac weithiau'n dewis cyfathrebu yn Gymraeg. Mae gan aelod arall o staff ychydig o wybodaeth am y Gymraeg ac mae'n ymgysylltu â'r preswylydd sy'n siarad Cymraeg.

Ar hyn o bryd, mae gan y cartref sgôr Hylendid Bwyd o 5, sef Uchel Iawn. Arolygwyd y cartref ddiwethaf yn 2019.

Camau Adfer a Datblygu

Adfer

Cofnodi cyfarfodydd staff rheolaidd (o leiaf chwe chyfarfod y flwyddyn), gan gymryd camau priodol o ganlyniad. (Rheoliad 38 RISCA).

Cyn cytuno i ddarparu gwasanaeth, mae'r darparwr gwasanaeth yn gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch a allant ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn ai peidio drwy gynnal asesiad cyn derbyn. Yna dylid cadw'r ddogfen hon ar ffeil. (Rheoliad 14 RISCA).

Camau datblygu

Dylid cwblhau hanesion bywyd mor llawn â phosibl gan gadw cofnodion o unrhyw ymdrechion i gael yr wybodaeth hon gan ffrindiau a theulu. Dylid defnyddio'r wybodaeth hon fel sail i gynlluniau personol perthnasol ac i gynllunio gweithgareddau.

Casgliad

Gwelwyd bod yr awyrgylch yn y cartref yn gynnes a chroesawgar, gyda digon o wenu a chwerthin i’w weld drwy gydol yr ymweliadau. Cafwyd adborth cadarnhaol gan y preswylwyr, y staff a gyflogir yn y cartref a hefyd aelodau o'r teulu.

Gwelwyd rhyngweithio da gyda'r preswylwyr, gyda’r staff yn dangos gwybodaeth am breswylwyr y cartref.

Mae'n amlwg bod gan Reolwr y Cartref a'r Unigolyn Cyfrifol berthynas waith gadarnhaol; gan ddangos tystiolaeth o dîm rheoli cryf.

Mae Rheolwr y Cartref yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw ac mae'n hysbysu'r Awdurdod Lleol a/neu'r Bwrdd Iechyd am unrhyw faterion neu bryderon.

Bydd monitro rheolaidd yn parhau, a hoffai'r swyddog monitro ddiolch i'r Unigolyn Cyfrifol, Rheolwr y Cartref, y tîm staff, a'r preswylwyr am eu croeso yn ystod yr ymweliad.

Awdur: Caroline Roberts, Swyddog Monitro Contractau
Dyddiad: 25/05/22