My Care My Home

Room R4 – Alder Suite, Mamhilad House, Mamhilad Park Estate, Pont-y-pŵl, NP4 0HZ  
Ffôn: 02921 673591
E-bost: Joanne.davies@mycaremyhome.co.uk / 
Monmouth.admin@mycaremyhome.co.uk

Adroddiad Monitro Contract 

  • Enw darparwr: My Care My Home
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: 23 Mawrth 2023
  • Swyddog(ion) Ymweld: Ceri Williams - Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Yn bresennol: Joanne Davies – Unigolyn Cyfrifol / Rheolwr Cofrestredig

Mae My Care My Home yn ddarparwr gofal cartref cofrestredig, sy'n darparu gofal a chymorth i unigolion yn eu cartrefi eu hunain.

Hwn oedd yr ymweliad monitro cyntaf â’r darparwr hwn gan yr Awdurdod Lleol.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, bydd My Care My Home yn cael camau unioni a datblygiadol i’w cwblhau. Camau unioni yw’r rhai mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth ac ati), ac argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Canfyddiadau'r Ymweliad

Darparu Gwasanaethau

Cafodd cofnodion monitro galwadau eu gweld ar gyfer dau gleient a'u cymharu â’r amseroedd wedi'u trefnu. Roedd y cofnodion yn dangos bod galwadau yn digwydd o fewn 30 munud i'r amseroedd galwadau wedi'u trefnu.

Roedd dilyniant gofalwyr ar gyfer y ddau becyn a gafodd eu gweld ychydig yn uwch na’r trothwy sydd wedi'i osod yn y contract.

Cafodd dwy rota staff eu gweld fel rhan o fonitro. Roedd digon o amser teithio wedi'i gynnwys yn y rotâu ar gyfer y rhan fwyaf o'r galwadau, fodd bynnag, gellir gwella rhai ohonyn nhw i ganiatáu digon o amser i ofalwyr deithio o un lleoliad i'r llall.

Mae My Care My Home yn defnyddio system cynllunio gofal gyfrifiadurol o'r enw Careline Live. Mae'r system yn cadw manylion, cynlluniau gofal, galwadau gofal sy'n eu hangen ar bob unigolyn a hefyd yn gweithredu fel system monitro galwadau.

Mae'r system yn dangos neges o rybudd os nad yw gofalwr wedi mewngofnodi i alwad am yr amser a gynlluniwyd. Mae hyn yn rhoi rhybudd i staff y swyddfa a fydden nhw wedyn yn gwneud ymholiadau gyda'r gofalwr.

Mae system ar alwad yn cael ei defnyddio y tu allan i oriau. Bydd y cydlynydd neu'r goruchwylydd gofal yn monitro'r system ar liniadur neu ffôn symudol i wirio am unrhyw rybuddion, ac maen nhw hefyd ar gael os oes angen unrhyw gymorth ar y staff gofal.

Mae staff gofal yn gallu gweld holl fanylion cynlluniau gofal a thasgau sydd eu hangen yn ystod yr alwad ar ap ffôn symudol. Mae hyn yn rhestru'r tasgau sydd angen eu cwblhau, ac mae'n rhaid i staff rhoi tic wrth ymyl bob tasg cyn i'r system ganiatáu iddyn nhw allgofnodi o'r alwad a hefyd caniatáu cadw cofnodion dyddiol. Mae'r ap hefyd yn gallu bod ar gael i deuluoedd neu gynrychiolwyr yr unigolion. 

Proses Cynllunio Gofal a Gwasanaeth

Mae gan My Care My Home ddogfen cynllunio gofal gynhwysfawr. Mae'n cynnwys anghenion gofal a chymorth, cyflyrau meddygol, y canlyniadau i'w cyflawni ac yr hyn sy'n gallu cael eu cyflawni'n annibynnol gan yr unigolyn.

Cafodd ffeiliau dau gleient eu gweld yn ystod yr ymweliad monitro. Roedd ffeiliau'r ddau gleient yn cynnwys Cynllun Gofal a Chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Roedd yr holl anghenion a nodwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a chynlluniau gofal a chymorth wedi cael eu cynnwys ar gynlluniau personol My Care My Home.

Mae hanes bywyd manwl yr unigolyn wedi'i gynnwys yn yr asesiad.

Roedd y cynlluniau personol a gafodd eu gweld yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl a chlir ar ba gymorth oedd ei angen ar bob galwad. Roedd y ddau gynllun yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn cynnwys hoff a chas bethau, arferion a galluoedd o ran yr hyn sy'n gallu cael eu cyflawni’n annibynnol.

Roedd y ddau gynllun personol yn cynnwys lefel rhagorol o fanylder i'r staff gofal am sut i gynorthwyo unigolion a sut mae eu cyflyrau meddygol yn gallu effeithio ar eu galluoedd i gyflawni tasgau yn annibynnol.

Roedd asesiadau risg addas ar waith yn y ddwy ffeil a gafodd eu gweld ac roedden nhw’n disgrifio’n gywir y risgiau a nodwyd ynglŷn â darparu gofal a chymorth a'r camau i'w cymryd pe bai'r risg yn digwydd.

Roedd y lefel o fanylder yn y cynlluniau personol yn dangos bod yr unigolyn yn amlwg wedi bod yn rhan o gynhyrchiad y cynllun.  Hefyd, nodwyd ar y ffeil os oedd cyfraniadau wedi'u gwneud i'r cynllun gan aelod o'r teulu neu gynrychiolwr.

Mae cofnodion dyddiol yn cael eu casglu yn electronig gan ddefnyddio'r ap. Mae hyn yn rhoi tystiolaeth ddigidol o'r dyddiad, amser yr alwad ac enw'r aelod o staff. Mae cofnodion dyddiol ar gael i'w weld ar sgrin neu mae adroddiad ar gael i'w hargraffu. 

Cafodd adroddiadau cofnodion dyddiol eu darparu i'r swyddog monitro yn yr ymweliad. Roedden nhw'n dangos safon dda o gofnodi, gyda phob tasg gofal a chymorth yn cael ei chwblhau, a sylwadau cyffredinol ar les cyffredinol yr unigolyn yn ystod yr alwad. 

Mae adolygiadau o gynlluniau personol ac asesiadau risg yn cael eu cynnal o fewn yr amserlenni angenrheidiol sydd wedi'u nodi mewn deddfwriaeth.

Mae adolygiadau yn ystyrlon ac yn cael eu cynnal gyda'r unigolyn sy'n derbyn gofal a chymorth. Maen nhw hefyd yn cynnwys agweddau o ansawdd y ddarpariaeth gofal ac unrhyw gamau gweithredu i'w cwblhau yn dilyn adolygiad.

Hyfforddiant Recriwtio a Goruchwyliaeth 

Cafodd ffeiliau dau aelod o staff eu gweld; roedden nhw'n cynnwys gwybodaeth ofynnol fel ffurflen gais fanwl, cofnod o gyfweliad gan gynnwys sgorio a chontractau cyflogaeth wedi'u llofnodi.

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys tystiolaeth o eirdaon gan gyflogwyr blaenorol.

Roedd copïau o ddogfennau yn cadarnhau adnabod ar y ddwy ffeil a ffotograffau diweddar yn bresennol.

Mae ceisiadau am wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu gwneud ac mae tystiolaeth eu bod nhw'n cael eu derbyn yn foddhaol wedi'i chadw ar ffeil. Roedd yr wybodaeth hon yn bresennol ar gyfer y ddwy ffeil staff wedi'u gwirio.

Mae staff yn ymgymryd â phroses cysgodi gydag aelod o staff profiadol ar ddechrau eu cyflogaeth. Mae'r broses hon yn cael ei goruchwylio a'i chymeradwyo gan uwch ofalwr. 

Mae hapwiriadau staff yn cael eu cynnal bob tri mis ac yn cynnwys amser cyrraedd, cod gwisg, cyfarpar diogelu personol, darparu gwasanaethau, perfformiad cyffredinol ac unrhyw gamau pellach wedi'u nodi gan yr hapwiriad. 

Mae gwiriadau cymhwysedd ynglŷn â rhoi meddyginiaeth a chodi a chario hefyd yn cael eu cynnal yn flynyddol.

Mae staff yn mynychu cwrs ymsefydlu deuddydd ar ddechrau eu cyflogaeth ac yn dilyn Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan.

Nid oes gan y darparwr fatrics hyfforddi gan fod yr holl gofnodion hyfforddiant yn cael eu cadw'n ddigidol a'u neilltuo i bob aelod o staff. Mae'r system ddigidol yn caniatáu'r rheolwr i weld pa hyfforddiant sydd angen ei wneud neu pa hyfforddiant sy'n hwyr, a bydd y rheolwr wedyn yn rhybuddio staff i'w hatgoffa nhw i gwblhau'r hyfforddiant.

Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau hyfforddi bellach ar gael ar-lein ac eithrio Cymorth Cyntaf a Chodi a Chario sy'n gyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb.

Mae amlder yr oruchwyliaeth hefyd yn cael ei gofnodi ar y system CareLine Live sy'n galluogi'r rheolwr i nodi unrhyw sesiynau goruchwylio sydd i ddod neu sy'n hwyr i staff.

Mae staff yn derbyn goruchwyliaeth o fewn yr amserlenni sydd wedi'u nodi yn y rheoliadau. Cafodd tystiolaeth o sesiynau goruchwylio ei gweld yn ystod yr ymweliad monitro. Roedd sesiynau goruchwylio yn ystyrlon ac yn cynnwys lles personol, darparu gwasanaethau, unrhyw bryderon ynghylch yr unigolion maen nhw'n eu cynorthwyo, perfformiad a datblygiad personol ac unrhyw gamau sy'n cael eu cytuno.

Roedd tystiolaeth o werthusiadau blynyddol staff hefyd ar gael a oedd yn cwmpasu meysydd megis cyflawniadau, problemau/anawsterau, amcanion, hyfforddiant, a rhinweddau personol a phroffesiynol. Mae adborth gan y rheolwr ac unrhyw gamau eraill hefyd yn cael eu cofnodi.

Mae cyfarfodydd tîm yn cael eu cynnal gyda staff bob dwy fis sydd o fewn yr amserlenni sydd wedi'u nodi yn y rheoliadau. Roedd cofnodion ar gael ac yn dangos amrywiaeth o bynciau sy'n cael eu trafod â staff, gan gynnwys amser teithio, materion â chleientiaid, hyfforddiant, cyfrinachedd, polisi salwch, defnyddio ffonau a chysgodi.

Sicrwydd Ansawdd

Cafodd copi diweddaraf o'r adroddiad sicrwydd ansawdd sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn ei ddarparu, yn ddyddiedig Ionawr 2023. Roedd yr adroddiad wedi cael adborth gan yr unigolion sy'n derbyn gwasanaeth ar ffurf adolygiadau sy'n cael eu cynnal bob tri mis.

Tystiodd yr adroddiad sicrwydd ansawdd fod unigolion, ar y cyfan, yn fodlon â'r gofal a'r cymorth eu bod nhw'n eu derbyn. Nodwyd meysydd i'w gwella ac aethon nhw i'r afael â'r meysydd hyn gyda chamau ac amserlenni ar gyfer eu cwblhau. 

Cafodd trafodaeth ei chynnal gyda'r Unigolyn Cyfrifol/Rheolwr Cofrestredig ynghylch adroddiadau chwarterol o dan reoliad 73 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Ar hyn o bryd, nid yw'r ymweliadau na'r adborth gan staff ac unigolion yn cael eu cofnodi bob tri mis fel sy'n ofynnol gan y rheoliadau. 

Cysylltwyd â nifer o'r unigolion sy'n derbyn gwasanaeth gan My Care My Home er mwyn iddyn nhw roi adborth. Doedd dim pryderon wedi codi gan yr unigolion neu gynrychiolwyr, gyda'r adborth i gyd yn gadarnhaol ynghylch ansawdd gofal a'r staff gofal.

Camau Unioni / Datblygiadol

Camau Unioni

I sicrhau bod amser teithio yn cael ei gynnwys ar y rota, gan ystyried y pellter rhwng lleoliad un ymweliad a'r ymweliad nesaf sydd wedi’i drefnu. (Rheoliad 41, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Yr Unigolyn Cyfrifol i ddechrau ymweliadau chwarterol â'r unigolion sy'n derbyn y gwasanaeth, a chyfarfodydd gyda staff i fonitro perfformiad y gwasanaeth.  (Rheoliad 73, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Bydd unrhyw hysbysiadau rheoliad 60 wedi'u cyflwyno i'r rheolydd hefyd yn cael eu hanfon at dîm Comisiynu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. (Contractau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili).

Camau datblygiadol

Ni chafodd unrhyw gamau datblygiadol eu nodi yn ystod yr ymweliad hwn.

Casgliad

Roedd yr ymweliad monitro i My Care My Home yn un cadarnhaol. Roedd ffeiliau wedi'u trefnu'n dda, yn fanwl ac yn llawn gwybodaeth ac roedd yr holl wybodaeth a gofynnwyd amdani hi ar gael yn hawdd.  Roedd tystiolaeth o'r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud yn ystod y flwyddyn, gydag ymrwymiad amlwg i barhau gwella ansawdd gofal.  Hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i staff My Care My Home am eu hamser a'u croeso yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Ceri Williams
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 14/04/2023