Cymorth ar gyfer anawsterau cyfun gyda'r golwg a'r clyw
Gall anawsterau clyw a golwg cyfun amrywio o fod yn fyddar ac yn ddall i fod yn drwm eich clyw ac yn rhannol ddall.
Bydd y gwasanaeth sydd gennych chi'n cael ei ddarparu gan Swyddogion Adsefydlu ar gyfer Nam ar y Golwg (ROVI).
Mae Swyddogion Adsefydlu ar gyfer Nam ar y Golwg yn arbenigwyr ym maes anawsterau o ran clyw a golwg cyfun. Byddan nhw'n siarad â chi am golli clyw a golwg ac unrhyw broblemau sydd gennych chi, ac yn cynnal asesiad arbennig.
Nod y gwasanaeth yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau cywir i chi er mwyn i chi gael rhagor o annibyniaeth yn eich cartref a'ch cymuned.
- Cyngor a gwybodaeth – mae hyn yn cynnwys cyngor ar gyfathrebu, symudedd a gwybodaeth am wasanaethau lleol
- Offer – gallwn ni fenthyg offer arbennig i chi i helpu gyda nam ar y golwg a’r clyw
- Addysgu sgiliau i gynyddu hyder, cyfathrebu a chynorthwyo eich annibyniaeth
- Atgyfeirio at y trydydd sector a gwasanaethau cymorth cysylltiedig eraill
Am ragor o wybodaeth neu i wneud atgyfeiriad, cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Efallai y bydd y gwasanaethau canlynol yn ddefnyddiol ichi hefyd: