Pryd ar glud 

Yn 2014, rhoddodd Cymdeithas Arlwyo Awdurdod Lleol Cymru y teitl tîm Arlwyo Arbenigol i’n tîm pryd ar glud 'Meals Direct’ oherwydd y gwasanaeth hanfodol a ddarperir i nifer o bobl sy’n gaeth i’r tŷ neu’n anabl.  Rydym yn darparu tua 125,000 o brydau y flwyddyn, i helpu pobl gadw eu hannibyniaeth a sicrhau bod popeth yn iawn yn y cartref. 

Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth? 

Gall unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth heb ei danysgrifio ar gost:

  • Pryd poeth a phwdin - £6.10
  • Brechdan - £2.50
  • Pryd wedi'i rewi - £6.10

Fel arall, efallai y byddwch yn gymwys i gael gwasanaeth gyda chymhorthdal os oes tystiolaeth o'r canlynol: 

  • nid ydych yn gallu paratoi prydau i chi'ch hun
  • ni all unrhyw un arall ddarparu prydau
  • mae risg sylweddol i chi os na ddarperir prydau rheolaidd

Y costau gwasanaeth wedi’u tanysgrifio yw:

  • Pryd poeth a phwdin - £3.70
  • Brechdan - £1.90
  • Pryd wedi'i rewi - £3.70

Os nad ydych yn derbyn pryd ar glud a hoffech gael gwybod os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn gymwys am y gwasanaeth â chymhorthdal cysylltwch ag ASDIT.

Gwybodaeth am alergenau 

Mae rhai o’n cynhyrchion yn cynnwys cnau ac alergenau eraill.  Oherwydd y ffordd y caiff ein cynhyrchion eu trin, gallai alergenau fod yn unrhyw un o’n cynhyrchion. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ar gynnwys alergenau ein bwydydd, cysylltwch â ni  a byddwn yn hapus i’ch helpu. 

Sut caiff y prydau eu darparu? 

Mae fflyd o faniau pwrpasol yn danfon prydau poeth neu wedi'u rhewi, brechdanau neu gymysgedd o’r tri, yn syth i'ch cartref.

Pryd mae’r gwasanaeth yn gweithredu? 

Pryd mae'r gwasanaeth ar waith? Rydyn ni'n dosbarthu prydau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11.00am a 2pm yn uniongyrchol i’ch cartref neu glwb cinio. Gallwch chi archebu prydau bwyd wedi'u rhewi ar gyfer y penwythnos.

Gallwch chi ddewis pa ddiwrnodau yr hoffech chi gael eich prydau eu dosbarthu ond bydd yr amser dosbarthu yn dibynnu ar ein hamserlen ddosbarthu ar gyfer eich ardal chi.

Archebu pryd

Os hoffech bryd heb gymhorthdal neu os ydych wedi’ch asesu gan y gwasanaethau cymdeithasol ac yn gymwys i gael prydau â chymhorthdal gan Meals Direct, gallwch archebu pryd drwy ffonio 01495 235087 neu anfon e-bost i meals@caerphilly.gov.uk.

Gallwch archebu eich prydau o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 8.30am a 5pm ac ar ddydd Gwener rhwng 08:30 a 4pm. .

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth a chyngor cysylltwch â’n tîm cyfeillgar ar 01495 235087.