Pan ddaw gofalu i ben

I rai pobl, gall gofalu bara am gyfnod byr. I eraill, gall fod yn waith am oes.

Gall gofalu ddod i ben am nifer o resymau: mae'r person sy'n derbyn gofal yn gwella, mae'n dod yn fwy annibynnol neu ni ellir gofalu amdano yn y cartref mwyach.

I rai pobl, efallai am fod y person y maent wedi bod yn gofalu amdano wedi marw.

Gall y cyfnod pan ddaw eich cyfrifoldebau gofalu i ben fod yn adeg anodd a gofidus. Mae’n bosib y byddwch yn teimlo llawer iawn o wahanol emosiynau, megis dicter, tristwch, diymadferthwch, rhwystredigaeth, euogrwydd... Ynghyd â’r teimladau hyn, gallwch deimlo sioc o sylweddoli faint o'ch bywyd yr ydych wedi'i roi i'ch rôl.

Gall llawer o ofalyddion deimlo'n unig, gan fod eu cyfrifoldebau gofalu wedi golygu nad oedd fawr o amser ganddynt i gymdeithasu a chadw mewn cysylltiad â phobl eraill. Gall hyn olygu ar ôl i’r gofalu ddod i ben, efallai nad oes gennych rwydwaith cymdeithasol i'ch cynorthwyo drwy'r cyfnod pan fyddwch yn pontio o fod yn ofalydd i beidio â chael rôl gofalu mwyach.

Beth bynnag fo'ch sefyllfa, mae'n bwysig sylweddoli nad ydych ar eich pen eich hun, a bod cymorth ar gael.

Profedigaeth

Mae colli rhywun annwyl yn boenus iawn, a gallai fod yn fwy poenus fyth os ydych wedi bod yn gofalu am y person hwnnw. Yn dilyn colled sylweddol, gallech deimlo pob math o emosiynau anodd ac annisgwyl, megis sioc, dicter ac euogrwydd.

Mae galaru yn brofiad personol ac unigol dros ben. Mae sut yr ydych yn galaru yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys eich personoliaeth a'ch dull o ymdopi, eich profiadau bywyd, eich ffydd, a natur y golled.

Cymerwch eich amser a pheidiwch â rhuthro na chael eich rhuthro gan unrhyw un arall i wneud unrhyw beth.  
Rydych yn haeddu cael amser i alaru a gorffwys. Mae bywyd ar ôl gofalu, ond gall gymryd cryn dipyn o amser nes byddwch yn teimlo eich bod eisiau neu yn gallu symud ymlaen neu wneud penderfyniadau.

Yn aml iawn mae'n syniad da i siarad â rhywun arall am eich teimladau. Mae'r help a’r gefnogaeth orau yn aml i’w cael gan y bobl sy’n meddwl llawer ohonoch, megis ffrindiau a pherthnasau. Gall siarad am yr hyn sydd wedi digwydd, ac am y person a fu farw, eich helpu i ddygymod â’i farwolaeth, ac ymdopi â’r teimladau sydd gennych.

Weithiau gall rhannu eich galar â rhywun arall sydd wedi cael yr un math o golled helpu: chwiliwch am grŵp cymorth profedigaeth yn eich ardal neu ar-lein, neu cysylltwch â gweithiwr proffesiynol cymwys sydd â phrofiad yn y maes cwnsela ar ôl profedigaeth.

Gall Carers Direct gynnig rhagor o wybodaeth i chi ar sut i ddelio â phrofedigaeth, y cymorth sydd ar gael a chynnig cyngor ymarferol yn ogystal – Carers Direct Bereavement Support.

Mae Gofal mewn Galar Cruse yn elusen genedlaethol ar gyfer pobl mewn profedigaeth yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Rydym yn cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion pan fydd rhywun yn marw ac yn gweithio er mwyn gwella gofal cymdeithasol pobl mewn profedigaeth.

Mae’r UK Care Guide yn darparu llawer o gyngor ac arweiniad defnyddiol ac yn adnodd gwych os ydych chi wedi colli rhywun annwyl.

Rhoi ‘amser i chi eich hun’

Nid yw llawer o ofalyddion yn meddwl amdanynt eu hunain o gwbl. Gan fod eich cyfrifoldebau gofalu bellach wedi dod i ben, efallai mai dyma’r amser i chi ganolbwyntio ar edrych ar ôl eich hunain. Mae’n hen bryd i chi roi rhywfaint o'r gofal a sylw yr oeddech yn ei roi i’r person yr oeddech yn gofalu amdano i chi eich hun.

Mae gofalu yn gwneud niwed mawr i’ch iechyd - methu prydau, nosweithiau digwsg, blinder, straen, poen cefn o’r holl waith codi efallai. Dros amser gallant gael effaith andwyol ar eich iechyd a gwneud i chi deimlo'n sâl iawn. Os yw eich iechyd eich hun yn eich poeni, ewch i weld eich meddyg.

Efallai eich bod yn sylweddol mai prin iawn yr oeddech yn eistedd i lawr i gael pryd o fwyd pan oeddech yn gofalu. Nawr nad oes rhaid i chi ddal ati yn yr un ffordd, treuliwch amser yn paratoi'r prydau yr ydych yn eu mwynhau, ac eistedd i lawr i’w bwyta.

Nawr bod gennych fwy o ryddid i fynd allan ar unrhyw adeg y dymunwch, gall hynny deimlo’n hynod anodd. 
Nid yw’n hawdd dechrau mynd allan ar ôl cyfnod hir yn y tŷ, ac mae’n bosib ar rai adegau y gallech deimlo'n rhy isel i wneud hynny. Ffoniwch un o’r ffrindiau yr ydych wedi colli cysylltiad ag ef neu hi ac ailgynnau’r berthynas neu gofynnwch i’ch cymydog fynd gyda chi i’r sinema, neu i’r dafarn. 

 

Holwch ba weithgareddau sy’n digwydd yn lleol, yn y papur, y llyfrgell neu ar hysbysfyrddau cyhoeddus. Gofynnwch i rywun ddod gyda chi, y tro cyntaf o leiaf, felly hyd yn oed os yw’r gweithgaredd yn drychinebus bydd gennych rywun i chwerthin gydag ef/hi amdano. 

Os oeddech yn aelod o grŵp gofalyddion o’r blaen, does dim rhaid i chi roi’r gorau i’ch aelodaeth oherwydd eich bod yn gyn-ofalydd.

Symud ymlaen

Mae llawer o ofalyddion yn ei chael yn anodd addasu pan ddaw eu rôl gofalu i ben. Byddai arferion beunyddiol wedi’u strwythuro o amgylch y tasgau gofalu i'w cyflawni ar ran y person yr oeddech yn gofalu amdano. Yn sydyn bydd gennych lawer o amser sbâr ac mae llawer o ofalyddion yn ansicr beth i’w wneud gydag ef.

Gall gymryd amser cyn y byddwch yn teimlo’n barod i symud ymlaen yn dilyn colli eich rôl gofalu. Ond fe ddaw amser pan fyddwch yn dechrau teimlo yr hoffech feddwl beth i’w wneud nesaf a beth yr ydych chi am ei wneud drosoch eich hunain.

Wrth i chi ddechrau symud ymlaen efallai y byddwch yn teimlo ei bod yn bryd i chi ddatblygu diddordebau newydd. 

Siaradwch â ffrindiau neu gydweithwyr i weld beth maen nhw'n ei wneud yn eu hamser sbâr, efallai bod ganddynt ddiddordeb na wyddech amdano o’r blaen ac y gallant eich cynnwys chi ynddo. Os ydych wedi bod yn ymwneud ag elusennau neu sefydliadau gwirfoddol wrth ofalu efallai yr hoffech roi rhywbeth yn ôl drwy godi arian neu drwy ddod yn aelod o grŵp cymorth gofalyddion, os yw hynny’n briodol. Efallai y byddwch yn dal i deimlo yr hoffech ofalu am rywun mewn angen drwy wirfoddoli. Neu efallai yr hoffech ystyried dod yn weithiwr gofal â thâl, neu ddychwelyd i fyd addysg neu ymuno â dosbarth addysg oedolion.

Gwirfoddoli

Mae llawer o ofalyddion yn meddwl am wirfoddoli ar ôl i’w gwaith gofalu ddod i ben. Mae llawer o resymau pam y gallech ei ystyried yn ffordd dda o dreulio'r amser sydd gennych gan nad ydych yn gofalu mwyach.

Beth bynnag fo’r rheswm am hynny, fel rhywun sydd wedi gofalu am rywun mae gennych set o sgiliau amhrisiadwy y gallant fod o ddefnydd i gynorthwyo eraill. Gall hwn fod yn waith boddhaol dros ben yn ogystal â’ch helpu i ddygymod â’ch colled eich hun. Hefyd, mae gwirfoddoli yn gallu bod yn weithgarwch cymdeithasol, a gall fod yn ffordd dda o gwrdd â phobl newydd.

Meddyliwch am ba fath o weithgareddau gwirfoddoli a fyddai o ddiddordeb i chi.  Ceisiwch gael rhywfaint o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn eich ardal chi a gweld a oes un sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’r sgiliau sydd gennych i’w cynnig.

Mae’r dolenni canlynol yn fan cychwyn da i ddysgu mwy am wirfoddoli.

Gwirfoddoli - GAVO

Gwirfoddoli Cymru

Dysgu rhywbeth newydd

Gall dysgu rhywbeth newydd fod yn gyfle gwych i adfywio’ch hun ar ôl treulio llawer o flynyddoedd yn gofalu am rywun. Bydd dysgu sgiliau newydd hefyd yn fodd i fagu hyder a hybu unrhyw gynlluniau i ddilyn addysg bellach neu ddychwelyd i’r gwaith. 

Mae cyfleoedd dirifedi i ddysgu rhywbeth newydd: gallant amrywio o gwrs nos byr i radd; o ddosbarth gwaith y cartref i hyfforddiant galwedigaethol achrededig/ardystiedig.

I’ch galluogi i ddewis y cwrs mwyaf addas i chi, yn y lle cyntaf holi eich hun ynglŷn â pham eich bod eisiau ymuno â dosbarth.  A yw'n ymwneud â chael amser i chi eich hun neu a ydych yn bwriadu defnyddio'ch sgiliau newydd i ddychwelyd i'r gwaith? Mae hefyd yn bwysig amcangyfrif faint o amser y gallwch ei neilltuo i ddysgu. Ydych chi’n barod i ddilyn cwrs llawn amser neu a fyddech ond yn gallu neilltuo ychydig oriau'r wythnos? 

Efallai y byddech am ystyried e-ddysgu? I gael rhagor o gyngor a help o ran sut i ddod o hyd i gyfleoedd dysgu ewch i'r tudalen gwe Addysg Oedolion.

Dychwelyd i’r gwaith

Pan ddaw gofalu i ben gall dychwelyd i’r gwaith eich helpu i gael ymdeimlad o bwrpas unwaith eto, gan roi strwythur newydd i'ch bywyd a sicrwydd ariannol i chi.

Fel cyn-ofalydd, mae'n bosib y byddwch yn wynebu'r heriau sydd ynghlwm wrth fod i ffwrdd o'r gweithle am gyfnod, fel peidio â bod yn gyfarwydd â'r dechnoleg ddiweddaraf, diffyg hyder, neu deimlo eich bod wedi colli'ch sgiliau blaenorol. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwch wedi dysgu sgiliau newydd wrth ofalu a all fod yn ddeniadol i ddarpar gyflogwr.

Yn wir, mae rhai sefydliadau yn bwrw ati'n fwriadol i recriwtio gofalyddion a chyn-ofalyddion sydd am ddychwelyd i’r gwaith. Ffordd dda o ddechrau yw drwy gydnabod y sgiliau sydd gennych. Meddyliwch am yr hyn a ddysgoch drwy:

  • unrhyw waith â thâl a wnaethoch yn y gorffennol
  • y gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud, er enghraifft, gwaith gwirfoddol, pwyllgorau ac ati
  • tasgau a chyfrifoldebau mewn cysylltiad â’ch rôl fel gofalydd.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos, mewn gwirionedd, bod gofalyddion yn datblygu llawer o sgiliau a all fod yn ddefnyddiol mewn amrywiaeth eang o swyddi.

Mae ein tudalen gwe cydbwyso gwaith a chyfrifoldebau gofalu hefyd yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i ddychwelyd i’r gwaith.

Cysylltwch â ni