Cydbwyso gwaith â chyfrifoldebau gofalu

Mae gan y DU fwy na 3 miliwn o ofalyddion sy’n gweithio - hynny yw, mae 1 o bob 7 yn y gweithlu yn ceisio cydbwyso cyfrifoldebau gofalu â chyflogaeth â thâl. Os ydych yn ofalydd sy'n gweithio, gallech boeni y bydd datgelu eich cyfrifoldebau gofalu yn y gwaith yn rhoi eich swydd yn y fantol. Mae'r penderfyniad i roi gwybod i'ch cyflogwr neu beidio yn eich dwylo chi. Fel cyflogai, mae gennych rai hawliau statudol, ond os yw eich cyflogwr yn deall hyd a lled eich rôl gofalu gallai ef/hi fod yn barod i gynnig cymorth ychwanegol.

Hawl gofalyddion i wneud cais am oriau gwaith hyblyg

Mae Deddf Gwaith a Theuluoedd 2006 yn rhoi’r hawl i ofalyddion wneud cais am oriau gwaith hyblyg ac yn ei gwneud yn ddyletswydd ar gyflogwyr i ystyried y fath geisiadau. Mae’r hawl hon yn berthnasol i rieni plant anabl a gofalyddion oedolion sydd wedi bod yn gweithio i'w cyflogwr am o leiaf 26 wythnos.

O ran gofalyddion oedolion mae’r hawl hon yn berthnasol i gyflogeion sydd ar hyn o bryd, neu sy’n disgwyl y byddant, yn gofalu am oedolyn arall sydd:

  • yn briod â’r cyflogai, neu yn bartner neu yn bartner sifil i’r cyflogai;   
  • yn berthynas agos i’r cyflogai; neu
  • yn byw yn yr un cyfeiriad â’r cyflogai. 

Mae’r diffiniad ‘perthynas agos’ yn cynnwys rhieni, rhieni-yng-nghyfraith, plentyn sy’n oedolyn, plentyn a fabwysiadwyd sy'n oedolyn, brodyr a chwiorydd (gan gynnwys y rheiny yng-nghyfraith), ewythrod, modrybedd, tadau a neiniau cu neu lys-berthnasau.

Gallwch ofyn i’ch cyflogwr ystyried unrhyw un o’r canlynol:

  • amser dechrau a gorffen hyblyg
  • oriau gwaith cywasgedig
  • oriau gwaith ar sail blwyddyn 
  • rhannu swydd neu weithio rhan amser
  • gweithio oddi gartref neu dele-weithio
  • gweithio yn ystod y tymor yn unig 

I wneud cais, mae’n rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflogwr yn gofyn am y newidiadau yr hoffech eu cael gan ddweud pam y byddant yn eich helpu. Dylech hefyd ddangos sut y bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cyd-fynd â gofynion patrymau gwaith eich cwmni.

Gallwch wneud un cais y flwyddyn a bydd unrhyw addasiadau y cytunir arnynt yn golygu y bydd eich contract cyflogaeth yn newid yn barhaol. Felly, mae’n bwysig iawn eich bod yn ystyried unrhyw oblygiadau ariannol neu ymarferol yn ofalus cyn bwrw ymlaen â’ch cais.

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod eich cais, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Gall cyflogeion ddewis cynnig trefniadau gweithio hyblyg i’w holl gyflogeion, felly mae’n werth holi ynghylch polisi eich cwmni chi yn y lle cyntaf.

Seibiant gyrfa

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio gwyliau blynyddol neu wyliau di-dâl i ymdopi yn ystod cyfnodau o ofalu dwys. Os ydych yn ystyried rhoi'r gorau i weithio, mae'n werth holi p'un ai a yw eich cyflogwr yn cynnig cynllun seibiant gyrfa. Byddai seibiant gyrfa yn eich galluogi i gadw pob drws ar agor. Os caiff hynny ei gytuno, bydd gennych swydd i fynd yn ôl ati ac yn cadw mewn cysylltiad â byd gwaith tra byddwch i ffwrdd.

Amser i ffwrdd mewn argyfwng

Mae gennych hawl i gael amser ‘rhesymol’ i ffwrdd o’r gwaith i ddelio ag argyfyngau yn ymwneud â dibynnydd. Mae’r hawl hon hefyd yn cynnwys rhywfaint o amddiffyniad rhag cael eich diswyddo. Mae’r penderfyniad i alluogi cyflogai i gael amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl neu’n ddi-dâl yn nwylo'r cyflogwr. Mae sefyllfaoedd lle gall hyn fod yn berthnasol yn cynnwys:

  • pan fo trefniadau gofal wedi'u hamharu arnynt neu wedi torri i lawr yn gyfan gwbl
  • pan fo dibynnydd yn sâl neu wedi cael ei ymosod arno neu wedi bod mewn damwain, gan gynnwys pan fo’r dioddefwr yn brifo neu wedi cynhyrfu’n feddyliol yn hytrach na'i anafu'n gorfforol
  • i ddelio â digwyddiad yn ymwneud â phlentyn yn ystod oriau ysgol
  • i wneud trefniadau hirdymor i ddibynnydd sy'n sâl neu wedi'i anafu
  • i ddelio â marwolaeth dibynnydd

Absenoldeb rhiant

Os ydych wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr am fwy na blwyddyn a’ch bod yn gyfrifol am blentyn a aned ar ôl 15 Rhagfyr 1999, mae gennych hawl i wneud cais am absenoldeb rhiant fel a ganlyn:

  • hyd at 13 wythnos ar gyfer plant dan 5 oed
  • hyd at 18 wythnos ar gyfer plant anabl (sy’n derbyn Lwfans Byw i'r Anabl) tan eu pen-blwydd yn 18 oed

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 4 wythnos y flwyddyn. Os yw eich plentyn yn anabl, gallwch gymryd yr amser fesul diwrnod neu gyfres o ddiwrnodau neu, ar gyfer plant dan 5 oed, mewn fesul blociau wythnos. Mae absenoldeb rhiant yn ddi-dâl fel arfer ond gall cyflogwr ddewis cynnig amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl – felly holwch beth yw polisi eich cwmni.

Meddwl rhoi’r gorau i weithio?

Os ydych yn ei chael yn anodd cydbwyso gwaith gyda’ch rôl gofalu, mae’n bosib y byddwch yn meddwl am roi’r gorau i’ch gwaith. Os mai dyna’r achos, mae’n bwysig eich bod yn ystyried beth fyddwch yn ei golli a phwyso a mesur eich opsiynau'n ofalus iawn.

Petaech yn rhoi’r gorau i weithio a fyddwch:

  • yn gallu ymdopi â llai o incwm?
  • colli cwmnïaeth cydweithwyr?
  • colli annibyniaeth ac ymdeimlad o’r ‘hunan’?
  • colli sgiliau neu’n canfod bod angen eu diweddaru?
  • colli eich pensiwn galwedigaethol?

Cyn i chi wneud unrhyw benderfyniad, siaradwch gyda’ch cyflogwr gan esbonio eich sefyllfa a’ch pryderon. Mae'n bosib bod eich sgiliau a phrofiad yn hynod werthfawr, ac y gallai arbed llawer o amser a bod yn fwy cost-effeithiol i'r cwmni gynnig trefniadau gweithio hyblyg i chi yn hytrach na recriwtio a hyfforddi aelod newydd o staff.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn ymateb yn well na'r disgwyl i’ch sefyllfa, a gallai wneud awgrymiadau nad ydych wedi'u hystyried o'r blaen i'ch galluogi i barhau i weithio.

Os, ar ôl siarad â'ch cyflogwr, eich bod dal yn teimlo mai rhoi'r gorau i'ch gwaith sydd orau, gofalwch eich bod ystyried yr holl opsiynau sy’n agored i chi cyn ymddiswyddo.<0} {0>Perhaps you could take a career break to consider your long term options or maybe you could take early retirement or voluntary redundancy.<}0{>Efallai y gallech gymryd seibiant gyrfa i ystyried eich opsiynau yn yr hirdymor neu gallwch ymddeol yn gynnar neu gymryd rhan mewn cynllun diswyddo gwirfoddol.

Dychwelyd i’r gwaith

Ydych chi wedi bod allan o waith am gyfnod yn sgil eich rôl gofalu? Ydych chi’n awyddus i fynd yn ôl i weithio ond yn ansicr lle i ddechrau?

Lle i ddechrau – Un o’r rhwystrau cyffredin sy'n wynebu gofalyddion pan fyddant yn meddwl am fynd yn ôl i weithio yw diffyg hyder.  Mae rhai gofalyddion hefyd yn teimlo’n euog os oes rhaid iddynt adael eu hanwyliaid dan ofal rhywun arall ac yn cael eu llethu gan yr holl broblemau ymarferol y maent yn eu hwynebu. Gall y teimladau hyn wneud i fyd gwaith ymddangos yn hynod anodd, ond cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun, a bod cymorth ar gael ym mhob cam o’r ‘broses mynd yn ôl i weithio'. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth ar y dudalen hon yn ddefnyddiol i chi.

Sgiliau a phrofiadau – Os ydych wedi bod allan o waith am gryn dipyn o amser, efallai y byddwch yn poeni bod y sgiliau yr oeddech yn arfer dibynnu arnynt, megis sgiliau TG, ar ôl yr oes neu'n rhydlyd. Neu gallech deimlo nad yw’r sgiliau priodol gennych i fodloni gofynion y gweithle cyfoes.  

Os felly, efallai bod eich coleg lleol yn cynnig cwrs addas lle gallwch ddiweddaru eich gwybodaeth neu ddysgu rhywbeth newydd. Dan rai amgylchiadau, caiff cyrsiau sgiliau sylfaenol eu cynnig am ddim a gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r cwrs neu raglen gymorth addas i chi.

Cofiwch hefyd, hyd yn oed os ydych yn teimlo'n ddihyder ar y cam hwn, rydych yn debygol o fod wedi datblygu llawer o sgiliau gwerthfawr, y gellir eu trosglwyddo, o ganlyniad uniongyrchol i'ch rôl gofalu. 

Chwilio am swydd a rhwydweithio  - Y dyddiau hyn mae llawer o swyddi yn cael eu hysbysebu ar y rhyngrwyd ac os ydych yn hyderus wrth chwilio’r we, mae hyn yn ffordd dda o gael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae Direct GovJobsite yn fan cychwyn da. Os nad ydych yn gyfforddus â hyn, efallai y gallech ofyn i aelod o’r teulu eich helpu neu gallech ystyried cofrestru ar gwrs cyfrifiaduron sylfaenol.

Canolfan Byd Gwaith – Yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau, mae canghennau ar gael yn y rhan fwyaf o gymunedau. Yn 2009, cyflwynodd y Ganolfan Byd Gwaith gynllun penodol i helpu gofalyddion i chwilio am waith.  Enw'r cynllun yw Cymorth i Ofalyddion Canolbwyntio ar Waith.  Efallai y gallant hefyd helpu i dalu am ofal amgen tra byddwch chi’n mynd i apwyntiadau, cael hyfforddiant neu fynychu cyfweliadau.

Asiantaethau cyflogaeth – Efallai y byddwch yn dewis cofrestru ag asiantaethau cyflogaeth lleol sy'n recriwtio ar gyfer eich maes gwaith chi. Yn aml, mae asiantaethau yn lle da i chwilio am waith dros dro.

Papurau newydd - Mae papurau newydd lleol yn lle da i ddod o hyd i swyddi yn eich ardal chi, tra bod y papurau cenedlaethol yn dueddol o hysbysebu swyddi rheoli, sy’n talu cyflog uwch a allai fod yn addas i chi, yn enwedig os ydych yn barod i gymudo (bydd copïau o’r papurau newydd ar gael yn eich llyfrgell leol).

Rhwydweithio – Mae’n werth rhoi gwybod i ffrindiau a chymdogion eich bod yn chwilio am waith gan roi syniad iddynt o'r math o gyflogaeth yr hoffech ei chael. Efallai bydd gan gyn-weithwyr wybodaeth am gyfleoedd newydd hefyd.

Gwaith a budd-daliadau – Mae llawer o ofalyddion yn poeni am yr effaith ar eu sefyllfa ariannol pan fyddant yn dychwelyd i'r gwaith. Mae rhai budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt hyd yn oed os ydych yn gweithio neu beidio, ond mae eraill yn ymwneud yn benodol â’ch incwm â/neu’r oriau yr ydych yn gweithio.

Dylai’r rhan fwyaf o bobl fod yn well eu byd mewn gwaith, ond mae rheolau budd-daliadau yn gymhleth ac yn newid yn gyson. Yn fyr, ni fydd y ffaith eich bod yn gweithio yn effeithio ar Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini, ond gallech golli un neu fwy o’r budd-daliadau canlynol o ganlyniad i symud i mewn i waith:

  • Lwfans Gofalydd
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Cymorth Tai
  • Budd-daliadau'r Dreth Gyngor
  • Budd-daliadau prawf modd eraill  

Ar y llaw arall, mae'n bosib y gallech hawlio un o'r canlynol pan fyddwch yn symud i mewn i waith:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Talebau Gofal Plant gan eich cyflogwr
  • Credyd mewn gwaith (rhiant sengl)

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.dwp.gov.uk/directgov/.

Asesiad gofalyddion – Os ydych yn ystyried dychwelyd i’r gwaith neu ddilyn cwrs hyfforddiant a bod y person yr ydych yn gofalu amdano dal angen gofal, mae’n bwysig eich bod yn cael asesiad gofalydd, o’r newydd, hyd yn oed os ydych wedi cael un o’r blaen.

Weithiau mae’n bosibl, o ganlyniad i gofrestru eich anghenion fel hyn, i gael cymorth ariannol i’ch galluogi i ddilyn cwrs hyfforddiant neu fanteisio ar gyfleoedd dysgu eraill. Gallwch hefyd drafod pa drefniadau gofal, megis gwasanaeth eistedd gyda phobl, fydd eu hangen arnoch i ddilyn y fath hyfforddiant a/neu fynd i gyfweliadau. I drefnu asesiad neu i siarad am eich anghenion, cysylltwch â’r Gweithiwr Cymorth Gofalyddion.

Gwybodaeth i gyflogeion

Yn ôl elusen Employers for Carers, mae gan y DU fwy na 3 miliwn o ofalyddion sy’n gweithio – hynny yw 1 o bob 7 o’r gweithlu. Bydd bywydau y rhan fwyaf o bobl yn cynnwys o leiaf un cyfnod o ofalu, a’r disgwyl yw y bydd nifer y gofalyddion yn cynyddu o 6 i 9 miliwn yn ystod y 30 mlynedd nesaf. Mae’r rhan fwyaf o ofalyddion rhwng 30 a 64, pan fydd llawer ohonynt wedi ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr. Felly, mae’n gwneud synnwyr busnes cadarn i roi cymorth i ofalyddion sy’n gweithio. 

Ffurfiwyd Employers for Carers o grŵp o gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i ofalyddion sy’n gweithio. Mae'r elusen yn cael ei chadeirio gan BT a'i chynorthwyo ar sail gwybodaeth arbenigol gan Carers UK. Mae’n rhoi cyngor i gyflogwyr, yn hyrwyddo’r manteision o roi cymorth i ofalyddion ac yn gweithio gyda’r Llywodraeth i ddarparu’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofalyddion a lansiwyd yn 2008.

Mae sefydliadau eraill sy’n gallu cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i gyflogwyr yn cynnwys: -

www.agilenation.co.uk

www.carersuk.org

Deddf Gwaith a Theuluoedd 2006 yn cynnwys gwybodaeth am hawliau gofalyddion mewn cysylltiad â gweithio oriau hyblyg. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau cyflogwyr ewch i wefan Direct Gov.

Cysylltwch â ni