Wythnos 1 - prydau ysgolion cynradd

Yn ogystal â'r fwydlen isod, rydyn ni'n cynnig detholiad o datws pob, pasta â saws neu frechdanau/rholau wedi'u gweini gyda dewis o lenwadau, salad, neu gyfwydydd.

Mae'n bwysig nodi efallai na fydd yr opsiynau hyn ar gael ym mhob un o'n hysgolion ni bob dydd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Llaeth ffres a dŵr yfed, bara gwenith cyflawn, bar ffrwythau, ffrwythau, hufen iâ Cymreig ac iogwrt Cymreig ar gael bob dydd.

Canllaw yn unig yw'r fwydlen sy'n cael ei dangos. Mae Gwasanaethau Arlwyo Caerffili yn cadw'r hawl i newid y cynhyrchion yn dibynnu ar argaeledd. Bydd cwsmeriaid yn cael dewis eu cyfwydydd bob dydd. Bydd y disgyblion yn rhydd i wneud eu dewis o gyfwydydd dyddiol eu hunain.

Byddwch yn ymwybodol y gall bwydlenni newid ar fyr rybudd oherwydd problemau gyda chyflenwyr.

Dydd Llun Llawn

Prif bryd

Lasagne cig eidion Cymreig
Tamaid caws Cymreig a winwns pob (Ll)

Pryd arbennig y dydd

Goujons pysgod heb eu ffrio

Carbohydradau

Bara garlleg a pherlysiau
Tatws troellog blasus gyda sawsiau amrywiol

Llysiau

Bar Salad
Ffa pob
Pys

Pwdinau

Brownie siocled a gellyg gyda hufen iâ

Dydd Mawrth Melys

Prif bryd

Pizza bara Ffrengig
Rafioli mewn saws tomato wedi’i weini gyda chaws Cymreig a bara focaccia (Ll)

Pryd arbennig y dydd

Tatws pob wedi'i lenwi

Carbohydradau

Reis sawrus gwenith cyflawn
Talpiau tatws blasus heb eu ffrio

Llysiau

Bar Salad
India-corn
Ffa Ffrengig

Pwdinau

Crymbl ffrwythau amrywiol â chwstard

Dydd Mercher Mawreddog

Prif bryd

Cig eidion, pwdin Efrog a grefi (Ll)
Selsig, pwdin Efrog a grefi (Ll)

Pryd arbennig y dydd

Goujons cyw iâr

Carbohydradau

Tatws rhost wedi'u pobi'n sych yn y ffwrn
Tatws stwnsh / Tatws wedi'u berwi

Llysiau

Bar Salad 
Bresych
Moron
Swejen

Pwdinau

Picen ar y maen jam neu ffrwythau gyda thalpiau o ffrwythau

Dydd Iau Danteithiol

Prif bryd

Cyw iâr tsili melys
Pizza margherita (Ll)

Pryd arbennig y dydd

Tortilla wedi'i llenwi

Carbohydradau

Ciwbiau o datws perlysiog sawrus heb eu ffrio
Nwdls

Llysiau

Bar Salad
Ffa pob barbeciw
Llysiau cymysg

Pwdinau

Iogwrt Cymreig Llaeth y Llan

Dydd Gwener Gwych (Wedi'u gweini mewn bocs)

Prif bryd

Tafell o bysgodyn Harry Ramsden's
Byrgyr cig eidion Cymreig neu fyrgyr Quorn (Ll) mewn bynen gyda sôs coch

Pryd arbennig y dydd

Baguette wedi'i lenwi

Carbohydradau

Talpiau tatws blasus heb eu ffrio
Sglodion tatws gyda sawsiau amrywiol

Llysiau

Bar Salad
India-corn ar y cobyn
Pys

Pwdinau

Fflapjac

Noder: Mae'r fwydlen uchod yn cynnwys alergenau