Gwaith cyflogedig neu brofiad gwaith a disgyblion oedran ysgol
Rhaid i blant fynd i’r ysgol hyd at ddydd Gwener olaf mis Mehefin yn ystod y flwyddyn academaidd y byddant yn 16 oed. Ar ôl hynny gall adael yr ysgol a gwneud cais am Rif Yswiriant Gwladol, a gweithio’n llawn amser.
Cyflogi plentyn oedran ysgol
Yr oedran ifancaf y gall eich plentyn weithio’n rhan amser yw 13 oed, ac eithrio plant sy'n gweithio ym maes teledu, theatr, modelu neu weithgareddau tebyg.
Dan y gyfraith, rhaid i gyflogwyr wneud cais i’n hadran addysg cyn cyflogi plentyn o oedran ysgol. Os ydynt yn fodlon ar y trefniadau, bydd yn cyflwyno trwydded cyflogaeth. Os nad oes gan y plentyn drwydded, nid yw wedi’i yswirio. Nid oes angen trwydded gwaith ar blant wrth gael profiad gwaith sy’n cael ei drefnu gan ei ysgol.
Cais am drwydded gwaith i blentyn (PDF)
Cais am drwydded gwaith i blentyn (MS Word)
Swyddi y gall plentyn 13 oed eu gwneud
Mae is-ddeddfau lleol yn rhestru’r swyddi y gall plant 13 oed eu gwneud. Ni allant weithio mewn swydd nad yw ar y rhestr.
Gallai is-ddeddfau lleol hefyd osod rhagor o gyfyngiadau ar oriau ac amodau gwaith a natur y gyflogaeth. I gael help a chyngor neu wneud cais am drwydded gwaith cysylltwch ag adran addysg eich cyngor lleol neu'r gwasanaeth lles addysg.
Is-ddeddfau cyflogi plant (PDF)
Dosbarthu papurau newydd a thaflenni
Gallwch gael wybodaeth am gyflogi plant i ddosbarthu taflenni a phapurau newydd yn y dogfennau canlynol.
Delio â'r newyddion - cyngor i gyflogwyr ar drin bwndeli (PDF 243kb)
Dosbarthu newyddion - ffurflen asesu risg (PDF 208kb)